Band roc Americanaidd a ffurfiwyd ym 1965 yn Los Angeles, Califfornia gan y prif leisydd Jim Morrison, allweddellwr Ray Manzarek, drymiwr John Densmore, a'r gitarydd Robby Krieger oedd The Doors. Cânt eu hystyried yn fand dadleuol a dylanwadol, yn bennaf oherwydd geiriau anelwig Morrison a'i bersonoliaeth llwyfan annisgwyl. Ar ôl marwolaeth Morrison ar 3 Gorffennaf, 1971, parhaodd gweddill aelodau'r band fel triawd tan iddynt wahanu ym 1973.[1]

'
The Doors
Doorslogo.png
Logo'r band
Gwreiddiau Los Angeles, Califfornia, Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cefndir Grŵp / band
Math Roc, Roc-blues, Roc-seicadelig, Roc-Asid, Roc caled
Blynyddoedd 1965 - 1973
Aduniadau rhannol: 1978, 1993, 2000)
Label Elektra, Rhino
Aelodau presennol Jim Morrison
John Densmore
Ray Manzarek
Robby Krieger
Gwefan thedoors.com

Er mai dim ond am wyth mlynedd parhaodd gyrfa'r band, ystyrir The Doors yn fand cwlt ac yn fand llwyddiannus o safbwynt masnachol. Cânt eu hystyried yn hynod ddylanwadol a gwreiddiol. Yn ôl y RIAA, gwerthodd y band dros 32.5 miliwn o albymau yn yr Unol Daleithiau'n unig.[2]

CyfeiriadauGolygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.