The Father

ffilm ddrama gan Florian Zeller a gyhoeddwyd yn 2020

Ffilm ddrama seicolegol 2020 yw The Father a gyfarwyddwyd gan Florian Zeller, yn ei ymddangosiad cyntaf fel cyfarwyddwr. Cafodd ei gyd-ysgrifennu gan Zeller a Christopher Hampton yn seiliedig ar ddrama Le Père (2012) gan Zeller.

The Father

Anthony Hopkins, seren y ffilm
Cyfarwyddwr Florian Zeller
Cynhyrchydd David Parfitt
Ysgrifennwr Florian Zeller
Addaswr Florian Zeller a Christopher Hampton
Serennu Anthony Hopkins
Olivia Colman
Mark Gatiss
Rufus Sewell
Olivia Williams
Cerddoriaeth Ludovico Einaudi
Sinematograffeg Ben Smithard
Golygydd Peter R. Hunt
Dylunio
Cwmni cynhyrchu
Amser rhedeg 97 munud
Gwlad DU Ffrainc
Iaith Saesneg

Mae'r ffilm yn gyd-gynhyrchiad Ffrengig-Prydeinig, ac yn serennu Anthony Hopkins, Olivia Colman, Mark Gatiss, Imogen Poots, Rufus Sewell, ac Olivia Williams. Mae'r stori'n ymwneud â dyn oedrannus sy'n dioddef o ddementia.

Yng Ngwobrau'r 93ain Academi, enillodd Anthony Hopkins yr Actor Gorau ac enillodd Hampton a Zeller y Sgript Sgrîn Wedi'i Addasu Orau; derbyniodd y ffilm chwe enwebiad i gyd, gan gynnwys y Llun Gorau a'r Actores Gefnogol Orau (Olivia Colman).[1] Yn y 78fed Gwobrau Golden Globe, enillodd Hopkins yr Actor Gorau hefyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Bisset, Jennifer. "Oscars 2021 results: The full list of winners, from Nomadland to Daniel Kaluuya". CNET (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Ebrill 2021.