Olivia Colman
Mae Olivia Colman (ganed Sarah Caroline Olivia Colman; 30 Ionawr 1974),[1] yn actores Seisnig a ddaeth i amlygrwydd pan chwaraeodd rôl Sophie Chapman yn y gyfres gomedi Channel 4 Peep Show (2003–15). Mae hefyd wedi actio mewn cyfresi comedi eraill yn cynnwys Green Wing (2004–06), Beautiful People (2008–09), Rev. (2010–14) a Twenty Twelve (2011–12) ac amrywiaeth o rolau yn That Mitchell and Webb Look (2006–08), ar bwys ei chyd-sêr Peep Show David Mitchell a Robert Webb.
Olivia Colman | |
---|---|
Ganwyd | Sarah Caroline Colman 30 Ionawr 1974 Norwich |
Man preswyl | South London |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, digrifwr, actor llwyfan, actor ffilm, dyngarwr |
Adnabyddus am | The Favourite, The Crown, Fleabag |
Tad | Keith Colman |
Mam | Mary Leakey Colman |
Gwobr/au | Cwpan Volpi am yr Actores Orau, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, Gwobr Ffilm Ewropeaidd am Actores Gorau, Golden Globe Award for Best Actress – Television Series Drama, CBE, Chortle Awards, Gwobr 'Emmy' i Actores Arbennig mewn Cyfres Ddrama |
Yn fwy diweddar, ymddangosodd mewn nifer o gyfresi a ffilmiau drama. Fe'i chanmolwyd yn ei rôl yn y ffilm 2011 Tyrannosaur,[2] a chwaraeodd Carol Thatcher yn The Iron Lady (2011), Y Frenhines Elizabeth, Mam y Frenhines yn Hyde Park on Hudson (2012), a Locke (2013). Mae wedi ennill tair Gwobr Deldu BAFTA, un ar gyfer y 'Perfformiad Comedi Gorau' gan fenyw ar gyfer Twenty Twelve ac un ar gyfer yr 'Actores Gefnogol Orau' yn Accused yn 2013.[3] Aeth yn ei blaen i ennill 'Gwobr yr Actores Orau' yn 2014 yn ei rôl fel D S Ellie Miller yn y gyfres dditectif ITV Broadchurch.
Yn 2016, chwaraeodd Angela Burr ym mini-gyfres y BBC, The Night Manager.
Ffilmyddiaeth
golyguFfilmiau
golyguBlwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2004 | Terkel in Trouble | Mam Terkel | Trosleisio ffilm Ddaneg |
2005 | Zemanovaload | Cynhyrchydd teledu | |
One Day | Mam Ian | Ffilm fer | |
2006 | Confetti | Joanna | |
2007 | Hot Fuzz | PC Doris Thatcher | |
Grow Your Own | Alice | ||
I Could Never Be Your Woman | Merch drin gwallt | Rhyddhad syth-i-DVD | |
Dog Altogether | Anita | Ffilm fer | |
2009 | Le Donk & Scor-zay-zee | Olivia | |
2011 | Tyrannosaur | Hannah | Gwobr Ffilm Annibynnol Brydain ar gyfer yr Actores Orau
Gwobr Empire ar gyfer yr Actores Orau Gwobr Feirniaid Ffilm Gylch Llundain ar gyfer Actores Orau'r Flwyddyn hefyd ar gyfer The Iron Lady Enwebwyd – Gwobr Satellite ar gyfer yr Actores Orau mewn Ffilm |
Arrietty | Homily | Trosleisio Saesneg | |
The Iron Lady | Carol Thatcher[4] | Gwobr Feirniaid Ffilm Gylch Llundain ar gyfer Actores Orau'r Flwyddyn hefyd ar gyfer Tyrannosaur | |
2012 | Hyde Park on Hudson | Y Frenhines Elizabeth (Mam y Frenhines) | Gwobr Ffilm Annibynnol Brydain ar gyfer yr Actores Gefnogol Orau |
2013 | I Give It a Year | Cynghorwraig Briodas | |
2014 | Locke | Bethan | |
Cuban Fury | Sam | ||
Thomas & Friends: Tale of the Brave | Marion | Llais (DU/UD) | |
2015 | The Lobster | Rheolwraig Westy | Gwobr Ffilm Annibynnol Brydain ar gyfer yr Actores Gefnogol Orau |
Thomas & Friends: Sodor's Legend of the Lost Treasure | Marion | Prif ran; llais (DU/UD) | |
London Road | Julie |
Teledu
golyguBlwyddyn | Cyfres | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2000 | Bruiser | Cymeriadau amrywiol | 6 phennod |
2001 | The Mitchell and Webb Situation | Cymeriadau amrywiol | 5 pennod |
People Like Us | Cymeriad heb enw | Pennod 2.1: "The Vicar" | |
Mr Charity | Mam ofidus | Pennod 1.5: "Nice to Feed You" | |
Comedy Lab | Linda | Daydream Believers: "Brand New Beamer" | |
2002 | Rescue Me | Paula | Pennod 1.4 |
Holby City | Kim Prebble | Pennod 4.45: "New Hearts, Old Scores" | |
The Office | Helena | Pennod 2.6 | |
2003 | Gash | Cymeriadau amrywiol | 3 pennod |
Eyes Down | Mandy Foster | Pennod 1.3: "Stars in Their Eyes" | |
The Strategic Humor Initiative | Cymeriadau amrywiol | ||
2003–15 | Peep Show | Sophie Chapman | 32 o benodau
Enwebwyd – Gwobr Gomedi Brydain ar gyfer yr Actores Gomedi Orau (2008) |
2004 | Black Books | Tanya | Pennod 3.2: "Elephants and Hens" |
Swiss Toni | Linda Byron | Pennod 2.1: "Troubleshooter" | |
NY-LON | Lucy | Pennod 1.5: "Something About Family" | |
Coming Up | Derbynnydd | Pennod 2.1: "The Baader Meinhoff Gang Show" | |
2004–06 | Green Wing | Harriet Schulenburg | 18 pennod |
2005 | Angell's Hell | Belinda | |
Look Around You | Pam Bachelor | 6 phennod | |
Help | Cymeriad heb enw | Pennod 1.6 | |
The Robinsons | Connie | Pennod 1.3 | |
Murder in Suburbia | Ellie | Pennod 2.6: "Golden Oldies" | |
ShakespeaRe-Told | Ursula | Pennod 1.1 "Much Ado About Nothing" | |
2006–08 | That Mitchell and Webb Look | Cymeriadau amrywiol | 13 pennod |
2007 | The Grey Man | Linda Dodds | Ffilm deledu |
The Time of Your Life | Amanda | 6 phennod | |
2008 | Love Soup | Penny | Pennod 2.2: "Integrated Logistics" |
Hancock and Joan | Marion | Ffilm deledu | |
Consuming Passion | Janet/Nyrs Violetta Kiss | Ffilm deledu | |
2008–09 | Beautiful People | Debbie Doonan | 12 pennod |
2009 | Skins | Gina Campbell | Pennod 3.6: "Naomi" |
Midsomer murders | Bernice | Pennod 12.5: "Small Mercies" | |
Mister Eleven | Beth | 2 bennod | |
2010 | Doctor Who | Mam/Carcharores Zero | Pennod 5.1: "The Eleventh Hour" |
2010–14 | Rev. | Alex Smallbone | 13 pennod
Enwebwyd – Gwobr Deledu BAFTA ar gyfer y Perffomiad Comedi Gorau gan Fenyw (2015) |
2011 | Exile | Nancy Ronstadt | 3 pennod |
2011–12 | Twenty Twelve | Sally Owen | 8 pennod
Enwebwyd – Gwobr Deledu BAFTA ar gyfer y Perffomiad Comedi Gorau gan Fenyw (2012) Gwobr Deledu BAFTA ar gyfer y Perffomiad Comedi Gorau gan Fenyw (2013) |
2012 | Accused | Sue | Pennod 2.2: "Mo's Story"
Gwobr Gymdeithas Deledu Frenhinol ar gyfer yr Actores Orau[5] Gwobr Deledu BAFTA ar gyfer yr Actores Gefnogol Orau (2013) |
2012 | Bad Sugar | Joan Cauldwell | |
2013–presennol | Broadchurch | Y Ditectif Sarjant Ellie Miller | Gwobr Deledu BAFTA ar gyfer yr Actores Orau
I'w chyhoeddi – Gwobr Satellite ar gyfer yr Actores Orau – Cyfres Deledu Ddrama |
2013 | The Suspicions of Mr Whicher: The Murder In Angel Lane | Susan Spencer | Ffilm deledu |
2013 | Run | Carol | |
2013 | The Thirteenth Tale | Margaret Lea | Ffilm deledu |
2013 | The Five(ish) Doctors Reboot | Ei hun | |
2014 | Big Ballet | Adroddwr | |
2014 | The 7.39 | Maggie Matthews | |
2014 | W1A | Sally Owen (cameo) | |
2014 | The Secrets | Pippa | Pennod 1: "The Dilemma" |
2014 | Mr. Sloane | Janet | |
2014–present | Thomas & Friends | Marion | Rôl gylchol; llais (UK/US) |
2014 | This is Jinsy | Joan | Pennod 2.8: "The Golden Woggle" |
2016 | The Night Manager | Angela Burr | Mini-gyfres, prif-rôl |
2016 | Our Queen at Ninety | Adroddwr |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ England and Wales Birth Index 1916–2005
- ↑ Maloney, Alison. "Ladies in red light up Empire Awards". The Sun. London.
- ↑ "Olivia Colman".
- ↑ "Make way for Maggie in the Maxi: Meryl Streep's Iron Lady gives her daughter a driving lesson". Daily Mail. London. 12 February 2011.
- ↑ "BBC News – Sean Bean awarded for cross-dressing Accused role". bbc.co.uk. 20 March 2013. Cyrchwyd 22 March 2013.
- ↑ "BBC News – Olivia Colman and Utopia up for International Emmys". BBC News. Cyrchwyd 28 February 2015.