Rufus Sewell
Mae Rufus Frederik Sewell (ganed 29 Hydref 1967) yn actor Seisnig.
Rufus Sewell | |
---|---|
Ganwyd | 29 Hydref 1967 Twickenham, Hammersmith |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan, cyfieithydd, actor llais |
Adnabyddus am | Blinky Bill the Movie |
Arddull | comedi Shakespearaidd |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, Gwobr y 'Theatre World' |
Bywyd Cynnar
golyguGanwyd Sewell yn Nhwickenham ym Mwrdeisdref Richmond upon Thames, yn ne orllewin Llundain, yn fab i William, animeiddiwr Awstralaidd, a Jo Sewell, artist a gweinyddes Gymreig.[1][2] Gweithiodd ei dad ar y darn animeiddiedig "Lucy in the Sky with Diamonds" ar gyfer ffilm 'Yellow Submarine' gan The Beatles. Ysgarodd ei rieni pan oedd yn bum mlwydd oed, a gweithiodd ei fam i gefnogi ei dau fab. Bu farw ei dad pan oedd yn ddeng mwlydd oed. Mae Sewell wedi dweud yr oedd yn blentyn anodd yn ystod ei arddegau.[3]
Fe'i addysgwyd yn Ysgol Parc Orleans, ysgol y wladwriaeth yn Nhwickenham. Gadawodd yr ysgol yn 1984 i fynychu Coleg Gorllewin y Tafwys, a thra yno, fe'i anfonwyd am glyweliad mewn ysgol ddrama gan ei athro. Cofrestrodd wedyn yn Ysgol Ganolog Lleferydd a Drama yn Llundain.
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Rufus Sewell Biography (1967–)
- ↑ "Rufus Sewell Biography – Yahoo! Movies". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-28. Cyrchwyd 2015-12-28.
- ↑ Saner, Emine (8 Rhagfyr 2006). "Dark star". The Guardian. London. Cyrchwyd 23 Mai 2010.