The Gentle Good yw enw llwyfan canwr Cymreig o'r enw Gareth Bonello.

Clawr yr albwm.

Wedi'i leoli yng Nghaerdydd, mae Gareth wedi bod yn perfformio yn sîn byw y Brifddinas, gan ganolbwyntio ar yr acwstig gwerinol ac yn canu caneuon traddodiadol a'i gyfansoddiadau ei hun yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae ei gerddoriaeth yn gyfuniad o'r gwerin traddodiadol, technegau gitâr o'r 60gau a llinynnau swmpus gyda thinc o psychedelia.

Yn 2008 cyhoeddodd ei albwm While You Slept I Went Out ag enillodd cryn ganmoliaeth. Ond daeth y Gentle Good i'r amlwg i lawer yn 2009 pan berfformiodd yng Ngwyliau South by Southwest yn yr UD, y Green Man a Glastonbury ymhlith eraill. Mae wedi ennyn clod gan y beirniaid gyda'i gerddoriaeth swynol yn cael ei chymharu gydag artistiaid fel Bert Jansch, John Renbourn, Nick Drake and John Martyn.

Rhyddhaodd albwm newydd, Tethered for the Storm ym Mawrth 2011 ar label Gwymon gan ddefnyddio pedwarawd llinynnol a phiano grand fel rhan o'r ensemble cerddorol. Mae'r albwm yn adlewyrchu bywyd yr artist yng Nghaerdydd gyda dylanwadau amrywiol - o farddoniaeth Philip Larkin a John Donne i'r Hen Benillion Cymraeg.

Yn 2013 rhyddhaodd yr albwm Y Bardd Anfarwol ar label Bubblewrap Records [1] o Gaerdydd. Recordiodd yr albym yn rhannol yn Chengdu, China, Eglwys Y Boro, Llundain a Bwthyn Rhyd Fudr, Llanuwchllyn. Ysgrifennwyd yr albwm wedi i Gareth dreulio cyfnod breswyl yn ninas Chengdu[2] yn 2011, fel artist preswyl. Albwm cysyniadol am y bardd Li Bai yw Y Bardd Anfarwol. Enillodd yr albym y tlws am Albym Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli[3] 2014. Seiliwyd y ddrama Rhith Gân gan y dramodydd Wyn Mason ar yr albym a berfformiwyd gan Theatr Genedlaethol yn Eisteddfod 2016. Roedd Gareth yn perfformio fel rhan o'r ddrama.

Daeth yr albwm Ruins/Adfeilion allan ar label Bubblewrap Records[1] yn Hydref 2016. Recordiwyd yn stiwdios Felinfach, Y Fenni gyda Dylan Fowler a Llion Robertson.

Enillodd Wobr Cylchgrawn Selar am yr Artist Unigol Gorau yn 2010 ac mae'n wyneb cyfarwydd erbyn hyn ar y sîn gerddorol Gymreig yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Disgyddiaeth

golygu

Albymau

golygu
  • While You Slept I Went Out Walking (2008)
  • Tethered for the Storm (2010)
  • Y Bardd Anfarwol (2013)
  • Ruins/Adfeilion (2016)
  • Find Your Way Back Home (2005)
  • Dawel Disgyn (2007)
  • Plygeiniwch! (2014)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 https://bubblewrapcollective.co.uk/artists/the-gentle-good/
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-01. Cyrchwyd 2017-02-18.
  3. http://golwg360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/157349-y-gentle-good-yn-ennill-gwobr-newydd

Dolenni allanol

golygu