Canwr a chyfansoddwr Cymreig o Gaerdydd yw Gareth Bonello, ganwyd 13 Ebrill 1981. Mae'n canu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n perfformio yng Nghymru a thramor o dan ei enw bedydd ac o dan ei enw llwyfan, The Gentle Good.

Yn ôl cyfweliad ar Radio Yes Cymru[1] adeg Eisteddfod Caerdydd 2018 mae Gareth o dras Cymraeg, Gwyddelig a Malteg. Gyda'r cyfenw yn dod o Ynys Malta.

Addysg golygu

Aeth i ysgolion Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd.

Mae ganddo radd mewn Sŵoleg gan arbenigo mewn ornitholeg. Mae'n astudio (yn 2017) ar gyfer gradd doethur PhD ym Mhrifysgol De Cymru.[2]

Gwaith golygu

Bu Gareth yn gweithio i'r British Trust for Ornithology a rhwng 2007 tan 2015 gydag Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan, lle bu'n cynnal teithiau blynyddol i wrando ar ganu'r adar gyda'r wawr fel rhan o Ddiwrnod Rhynglwadol Côr y Bore ('International Dawn Chorus Day') ar dir yr Amgueddfa.[3][4][5][6]

Mae bellach yn gerddor amser llawn ac yn recordio a pherfformio dan ei enw ei hun neu fel The Gentle Good.

Gwleidyddiaeth golygu

Yn ôl cyfweliad ar Radio Yes Cymru ar 10 Awst 2018, nododd Bonello ei fod yn teimlo'n fwy fwy pleidiol i Gymru annibynnol yn enwedig wedi refferndwm Brexit.[1]

Personol golygu

Mae Gareth yn byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig, Jennifer Gallichan, sydd hefyd yn rhan o grŵp Gareth, The Gentle Good.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 https://www.mixcloud.com/RadioBeca/radio-yes-cymru-3-1082018/
  2. "Welsh and Khasi Cultural Dialogues website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-07. Cyrchwyd 2018-08-22.
  3. Alison Young (28 April 2012). "St Fagans National History Museum celebrates International Dawn Chorus Day". WalesOnline.
  4. Gareth Bonello [@ghbonello] (15 April 2015). "I'm leaving @AmgueddfaCymru after over a decade and my final task is to lead this dawn chorus walk! It'll be magic!" (Trydariad) – drwy Twitter.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-28. Cyrchwyd 2018-08-22.
  6. "St Fagans springs into summer – Press release". National Museum Wales. 31 May 2007.