The Hermit of Eyton Forest
Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw The Hermit of Eyton Forest ("Meudwy Fforest Eyton") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1987. Dyma'r bedwaredd nofel ar ddeg yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Edith Pargeter |
Cyhoeddwr | Headline Publishing Group |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1987 |
Genre | ffuglen dirgelwch |
Cyfres | The Cadfael Chronicles |
Rhagflaenwyd gan | The Rose Rent |
Olynwyd gan | The Confession of Brother Haluin |
Cymeriadau | Cadfael |
Y mae mab deng mlwydd oed i Richard Ludel, Arglwydd Eyton, yn ddysgybl yn Abaty Amwythig, lle y mae Cadfael yn fynach. Ym mis Hydref 1142 ar ôl marwolaeth ei dad o glwyfau a gafodd ym Mrwydr Lincoln, mae'r mab, a elwir hefyd yn Richard, yn etifeddu ei ystad. Mae'r bachgen yn gwrthod ildio i'w ddraig o nain, Dionysia, trwy wneud priodas fantais er mwyn cynyddu ei diroedd. Daw'r meudwy Cuthred, sy'n mwynhau amddiffyniad yr Arglwyddes Dionysia, i'r ardal. Mae ei gydymaith ieuanc, Hyacinth, yn dod yn gyfaill i Richard ifanc. Er gwaethaf ei enw da am sancteiddrwydd, mae dyfodiad Cuthred yn rhagflaenu cyfres o anffodion i'r mynachod. Pan fydd Richard ifanc yn diflannu a chorff yn cael ei ddarganfod yn Fforest Eyton, rhaid i Cadfael adael ei ardd berlysiau a dod o hyd i'r llofrudd.
Yn wahanol i lyfrau eraill yn y gyfres, ni chafodd y llyfr hwn ei addasu ar gyfer teledu.