Abaty Amwythig
Eglwys fawr yn Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Abaty Amwythig (enw llawn: Eglwys Abadol Sant Pedr a Sant Paul, Amwythig). Mynachdy Benedictaidd ydoedd gynt, ond mae bellach yn eglwys blwyf.
Math | abaty, eglwys ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Amwythig |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.7075°N 2.7442°W ![]() |
Cod OS | SJ4984412474 ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Romanésg ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Roger o Drefaldwyn, Iarll 1af Amwythig ![]() |
Cysegrwyd i | Sant Pedr, yr Apostol Paul ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Caerlwytgoed ![]() |
Fe'i sefydwyd yn 1083 fel abaty Benedictiaidd gan Roger o Drefaldwyn, Iarll cyntaf Amwythig. Tyfodd i fod yn un o'r abatai pwysicaf yn Lloegr, ac yn ganolfan bererindod o bwys. Er i lawer o'r adeilad gael ei ddinistrio yn yr 16g, goroesodd corff yr eglwys fel eglwys blwyf.
Yn 1138 symudwyd gweddillion y Santes Gwenffrewi i'r abaty o Wytherin, Conwy.[1] Daeth ei chreiriau yn ganolbwynt ar gyfer pererindodau i'r abaty yn ddiweddarach.
Ar dir yr abaty mae cofeb i'r bardd Wilfred Owen, gan y cerflunydd Paul de Monchaux.[2]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Ray Spencer, A Guide to the Saints of Wales and the West Country (Llanerch, 1991)
- ↑ "Symmetry - Wilfred Owen Memorial Sculpture". War Memorials Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Hydref 2022.