The Jackson 5
Roedd The Jackson 5 (a adwaenid hefyd fel The Jackson Five neu "The Jackson 5ive", ac yn hwyrach fel The Jacksons) yn grŵp pop teuluol Americanaidd o Gary, Indiana. Cawsant eu henwebu am Wobr Grammy ar ddwy achlysur. Enwau aelodau'r grŵp oedd Jackie, Tito, Jermaine, Marlon a Michael. Yn wreiddiol, defnyddiodd y grŵp yr enw The Jackson Brothers, a dim ond y tri brawd hynaf oedd ynddo. Perfformiodd y grŵp o 1966 tan 1990, gan ganu caneuon R&B, soul, pop ac yn ddiweddarach disco. Roedd The Jackson 5 yn un o brif grŵpiau pop y 1970au,[1] ac arweiniodd llwyddiant y band at yrfa unigol i'r prif leiswyr Jermaine a Michael, gyda Michael Jackson yn cymryd mantais o'i enwogrwydd a'i lwyddiant cynnar er mwyn cael mwy fyth o lwyddiant fel artist unigol pan yn oedolyn.
Enghraifft o: | band ![]() |
---|---|
Label recordio | Epic Records, Steeltown Records, Motown Records, Philadelphia International Records ![]() |
Dod i'r brig | 1964 ![]() |
Dod i ben | 1989 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1964 ![]() |
Genre | rhythm a blŵs, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth yr enaid, disgo, ffwnc, pop bubblegum ![]() |
Yn cynnwys | Michael Jackson, Jackie Jackson, Tito Jackson, Jermaine Jackson, Marlon Jackson, Randy Jackson ![]() |
Enw brodorol | The Jackson 5 ![]() |
Gwefan | https://www.thejacksons.com/ ![]() |
![]() |

Rhes waelod o'r chwith i'r dde: Tito, Michael, Jermaine
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Huey, Steve. "The Jackson 5". Macrovision Corp. Adalwyd 2008-05-08