Rhythm a blŵs

genre mewn cerddoriaeth boblogaidd Affrican-Americanaidd o'r 1940au
(Ailgyfeiriad o R&B)

Math o gerddoriaeth Americanaidd Affricanaidd boblogaidd a ddechreuwyd yn y 1940au[1] yw rhythm a blŵs (Saesneg: rhythm and blues), sy'n cael ei fyrhau i R&B fel arfer.

Clawr yr albwm "Dangerously in Love" gan Beyoncé.
 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Mae R&B mor boblogaidd heddiw nac yr oedd pan ddechreuodd hi yn y 1940au cynnar. Mae'n yn cynnwys jump blues, doo-wop, soul, y twist, Motown, disco, funk, rap a hip-hop. Gan fod R&B wedi newid llawer dros y blynyddoedd, gellir cyfeirio at yr arddull cynnar fel "rhythm a blŵs traddodiadol" a'r diweddar fel "rhythm a blŵs cyfoesol". Fe ddechreuodd hi yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan yr oedd mudiad llawer o bobl dduon o dde'r Unol Daleithiau i weithio yn y dinasoedd mawr.

Fe ddefnyddiwyd yr ymadrodd "Rhythm and Blues" yn gyntaf ym 1949 gan Jerry Wexler yng nghylchgrawn y "Billboard" (ac "Atlantic Records" wedi hynny). Fel mae'r ymadrodd yn awgrymu, mae rhythm a blŵs yn ddisgynnydd o'r blŵs. Mae'r gerddoriaeth yn debyg iawn i'r blŵs ond mae ganddi rythm cryf a chaled. Mae gan y rhan fwyaf o ganeuon R&B bedwar curiad i'r bar gyda'r acen ar yr ail a'r bedwerydd curiad.

R&B cynnar

golygu

Fe recordiodd Louis Jordan "G. I. Jive" ym 1944, "Caldonia" ym 1945 a "Choo Choo Ch'Boogie" ym 1946, mewn arddull a elwir jump blues.

Y 1950au

golygu
 
Chuck Berry, "brenin R&B"

Ym 1949, fe recordiodd Fats Domino "The Fat Man" ac ym 1956 fe recordiodd fersiwn o'r gân "Blueberry Hill". Fe recordiodd Chuck Berry "Maybellene" ym 1955 a "Roll Over Beethoven" ym 1956. Gelwir Chuck Berry yn frenin R&B.

Un arall oedd Little Richard a recordiodd "Tutti Frutti" yn 1955, "Long Tall Sally" a "Good Golly Miss Molly" yn 1958.

Yn y 1950au fe ddatblygodd R&B i roc a rôl pan osododd gerddorion gwynion fel Bill Haley ac Elvis Presley alawon gwlad i rythmau R&B. Gelwir R&B yn "roc a rôl ddu" weithiau ac mae cerddorion fel Fats Domino, Chuck Berry a Little Richard ymhlith arloeswyr roc a rôl.

Ystyr soul yw "enaid". Dywedir mai'r canwr a phianydd Ray Charles a ddyfeisiodd soul. Dechreuodd e recordio yn 1951.

Un arall i ddechrau'r un adeg oedd James Brown a ddatblygodd funk. Mae funk yn debyg i soul ond bod yr acen ar guriad cyntaf y bar a bod ganddo rythm wedi ei drawsacennu.

Y 1960au

golygu

Y Twist

golygu

Yn 1959 fe recordiodd Hank Ballard and the Midnighters "Teardrops on Your Letter". Ar gefn y record roedd yna gân o'r enw "The Twist". Yn 1960 fe recordiodd Chubby Checker fersiwn ei hunan o "The Twist" ac fe ddyfeisiodd ddawns fach i fynd gyda'r gân. Daeth y ddawns yn boblogaidd dros ben o gwmpas y byd-eang. Y flwyddyn ganlynnol fe ysgrifennodd a recordiodd Chubby Checker y gân "Let's Twist Again".

Motown

golygu

Yn 1959 fe sefydlodd Berry Gordy gwmni recordio "Motown" yn Detroit. Canwyr mwyaf poblogaidd Motown ydy Diana Ross, Smokey Robinson, Stevie Wonder a Michael Jackson.

R&B ym Mhrydain

golygu

Yn y 1960au roedd bandiau fel y Rolling Stones, Manfred Mann a'r Kinks yn arfer gwrando ar hen recordiau R&B a chwarae arddull drydanol o R&B.

Enwogion eraill R&B

golygu

Mae enwogion eraill R&B yn cynnwys Booker T and the MG's, Sly & The Family Stone, Ike Turner, Tina Turner, Whitney Houston, Destiny's Child (yn cynnwys Beyoncé), Luther Vandross, Alexandra Burke a Mary J Blige.

Ffynonellau

golygu
  1. The new blue music: changes in rhythm & blues, 1950–1999, p.172

Gweler hefyd

golygu