The Last King of Wales
Ffilm fud ddu a gwyn am hanes blynyddoedd olaf teyrnasiad Llywelyn Ein Llyw Olaf yw The Last King of Wales (1922). Bu'r ffilm ar goll am flynyddoedd ond cafodd ei ailddarganfod yn ddiweddar.
Serennu | Charles Ashton Malvina Longfellow |
---|---|
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | British and Colonial Company |
Dyddiad rhyddhau | 1922 |
Gwlad | DU |
Cynhyrchwyd y ffilm gan y British Colonial Company yn 1922 fel rhan o'r gyfres ddeuddeg darn Romance of History. Mae'n serennu Charles Ashton fel Llywelyn ('Llewellyn' yn y ffilm) a'r actores Americanaidd ifanc Malvina Longfellow, yn enedigol o Ddinas Efrog Newydd, fel ei wraig Elinor de Montfort.
Darganfuwyd copi o'r ffilm - yr unig un i oroesi efallai - gan y casglwr hen ffilmiau Patrick Moules. Bydd rhannau o'r ffilm yn cael eu sgrinio am y tro cyntaf ers tua 80 mlynedd yn haf 2008 mewn gŵyl ffilm yn Theatr y Drwm, Aberystwyth. Mae'r print o'r ffilm yn y broses o gael ei drosglwyddo i fformat fideo digidol gan arbenigwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i'w diogelu i'r dyfodol.
Ffynonellau
golygu- icwales.co
- Dalen, Newyddlen Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Gwanwyn-Haf 2008, Rhif 7. ISSN 1744-6759