Elinor de Montfort
tywysoges a diplomydd
Roedd Elinor de Montfort neu Eleanor de Montfort (1252 – 19 Mehefin 1282), yn ferch Simon de Montfort ac Eleanor o Loegr (chwaer Harri III, brenin Lloegr), a gwraig Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru.[1] Mam y Dywysoges Gwenllian oedd hi.
Elinor de Montfort | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1258 ![]() |
Bu farw | 19 Mehefin 1282 ![]() o anhwylder ôl-esgorol ![]() Abergwyngregyn ![]() |
Dinasyddiaeth | Lloegr ![]() |
Galwedigaeth | diplomydd ![]() |
Tad | Simon de Montfort ![]() |
Mam | Eleanor Caerlŷr ![]() |
Priod | Llywelyn ap Gruffudd ![]() |
Plant | y Dywysoges Gwenllian, Catrin ferch Llywelyn ap Gruffudd ![]() |
Bywgraffiad golygu
Ar ôl priodi Llywelyn ym 1278, ei theitl swyddogol (yng Nghymru a Lloegr) oedd 'Tywysoges Cymru' ac 'Arglwyddes Eryri' (fel yr oedd Llywelyn ei hun yn Dywysog Cymru ac Arglwydd Eryri).[1]
Bu farw Elinor yn 1282. Yn ôl Brut y Tywysogion, ildiodd ei hysbryd wrth roi genedigaeth i ferch (Gwenllian), yn llys Abergwyngregyn:
- "ac o honno y bu ferch i'r tywysog a elwid Gwenllian, ac yn esgor arni y bu farw Elinor ac y'i claddwyd ym mynachlog y brodyr troednoeth yn Llan-faes ym Môn."[1]
Yn ôl Cronicl Bury St Edmund bu farw ar 19 Mehefin. Fe'i claddwyd yn ymyl y Dywysoges Siwan ym Mhriordy Llan-faes ar Ynys Môn.[1]