Drama gomedi boblogaidd ydy The Royle Family sydd wedi ennill Gwobr BAFTA [1] a gynhyrchwyd gan Granada Television ar gyfer y BBC. Rhedodd y rhaglen am dair cyfres rhwng 1998 a 2000, gyda rhaglen arbennig ar ddiwedd 2006 ac un arall yn 2008.[2] Adrodda'r rhaglen hanes bywdau teulu dosbarth gweithiol ym Manceinion, y Royles.

The Royle Family
Genre Comedi sefyllfa
Serennu Ricky Tomlinson
Sue Johnston
Caroline Aherne
Ralf Little
Craig Cash
Liz Smith
Gwlad/gwladwriaeth Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer penodau 22
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 28 munud (18 rhaglen)
45 munud (2 raglen)
60 munud (rhaglenni arbennig 2006 & 2008)
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC
Darllediad gwreiddiol Darllediad gwreiddiol:
14 Medi 1998 –
27 Tachwedd 2000
Sioeau Nadolig:
25 Rhagfyr 1999 – presennol
Rhaglenni arbennig:
29 Hydref 2006 –
13 Mawrth 2009
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Mae'r gyfres yn rhyfeddol oherwydd ei chynhyrchiad syml a'i phortread realistig o fywyd teuluol dosbarth gweithiol wrth droad y mileniwm. Yn aml bydd y sgript yn cynnwys sgyrsiau bob dydd a bydd rhaglenni'n troi o amgylch digwyddiadau teuluol, megis priodas merch y teulu, Denise, genedigaeth ei phlentyn cyntaf a bedydd y plentyn hwnnw. Digwydda'r holl rhaglenni yng nghartref y Royles, sy'n edrych fel tŷ cyngor traddodiadol Seisnig; canolbwynt y cartref yw'r teledu. Ysgrifennwyd y gyfres gyntaf gan Caroline Aherne a Craig Cash, a actiodd yn y cyfresi, ynghyd â'r bardd a'r digrifwr Henry Normal. Yn yr ail gyfres, ymunodd Carmel Morgan â Aherne a Cash, ond dim ond Aherne a Cash ysgrifennodd y gyfres olaf.

Cyfeiriadau

golygu
  1. BAFTA Winners Archifwyd 2007-07-04 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 2007-05-20
  2. The Royle Family - Queen of Sheba Swyddfa'r Wasg y BBC. Adalwyd 2006-11-05
  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato