The Spirit of the Age

Casgliad o bortreadau llenyddol gan yr ysgrifwr a beirniad Seisnig William Hazlitt (1778–1830) yw The Spirit of the Age a gyhoeddwyd gyntaf yn Saesneg ym 1825. Mae'n cynnwys ysgrifau am sawl un o gyfoedion yr awdur, megis Samuel Taylor Coleridge, William Wordsworth, a Charles Lamb, ac am lenorion o'r hanner can mlynedd ynghynt. Mae'r rhan fwyaf o'r penodau yn cyfuno portread treiddgar o gymeriad yr unigolyn dan sylw gydag ymdriniaeth feirniadol o'i gyfraniadau i fyd llên. Dyga'r awdur argyhoeddiad yn ei fynegiant, fel petai wedi ysgrifennu'r portreadau fel crynhoadau diffiniol o anian a gwaith y pwnc. Mae nifer yn ystyried y gyfrol hon yn cynrychioli Hazlitt ar anterth ei ddoniau llenyddol a beirniadol.

The Spirit of the Age
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurWilliam Hazlitt Edit this on Wikidata
CyhoeddwrHenry Colburn Edit this on Wikidata
GwladLloegr Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Genresocial commentary, cofiant Edit this on Wikidata

Cynhwysir 25 o ysgrifau yn The Spirit of Age, saith ohonynt a gyhoeddwyd ar ryw ffurf yn flaenorol.[1] Maent yn ymdrin â Jeremy Bentham, William Godwin, Samuel Taylor Coleridge, Edward Irving, John Horne Tooke, Syr Walter Scott, yr Arglwydd Byron, Robert Southey, William Wordsworth, Syr James Mackintosh, Thomas Robert Malthus, William Gifford, Francis Jeffrey, Henry Brougham, Syr Francis Burdett, yr Arglwydd Eldon, William Wilberforce, George Canning, William Cobbett, Thomas Campbell, George Crabbe, Thomas Moore, Leigh Hunt, "Elia" (Charles Lamb), a "Geoffrey Crayon" (Washington Irving). Mae rhai argraffiadau yn cynnwys rhan ychwanegol am James Sheridan Knowles.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Herschel Baker, William Hazlitt (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press, 1962), t. 433.