The Spy Who Came in from the Cold
Nofel ysbïo gan John le Carré yw The Spy Who Came in from the Cold a gyhoeddwyd ym 1963. Dywedodd Graham Greene taw hon oedd "y nofel ysbïo wychaf rwyf erioed wedi ei darllen".[1] Yn ôl William Boyd roedd cyhoeddiad The Spy Who Came in from the Cold yn drobwynt i'r genre ysbïo.[2]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | John le Carré |
Cyhoeddwr | Victor Gollancz, Pan Books |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | Medi 1963 |
Genre | ffuglen dditectif, ffuglen antur, ffuglen ysbïo |
Cyfres | cyfres George Smiley |
Rhagflaenwyd gan | A Murder of Quality |
Olynwyd gan | The Looking Glass War |
Prif bwnc | y Rhyfel Oer |
Lleoliad y gwaith | Prydain Fawr |
Pwnc yr erthygl hon yw'r nofel. Am y ffilm, gweler The Spy Who Came in from the Cold (ffilm).
Ysgrifennodd le Carré y nofel pan oedd yn swyddog cudd-wybodaeth yn Llysgenhadaeth y Deyrnas Unedig yn Bonn, Gorllewin yr Almaen.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Boucher, Anthony (12 Ionawr 1964). Temptations of a Man Isolated in Deceit. The New York Times. Adalwyd ar 27 Ebrill 2013.
- ↑ (Saesneg) Boyd, William (24 Gorffennaf 2010). Rereading: The Spy Who Came in from the Cold by John le Carré. The Guardian. Adalwyd ar 27 Ebrill 2013.
- ↑ (Saesneg) Le Carré, John (12 Ebrill 2013). John le Carré: 'I was a secret even to myself'. The Guardian. Adalwyd ar 27 Ebrill 2013.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) John le Carré yn trafod y nofel ar The Merv Griffin Show (1965)