The Storr
Mae The Storr yn gopa mynydd a geir yn Trotternish ar Ynys Skye yn yr Alban; cyfeiriad grid NG495540. Mae yma enghraifft fendigedig o dirlithriad geolegol, un o'r rhain ydy'r tyrrau enwog a elwir yn "Hen Ŵr Storr".
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Alban |
Uwch y môr | 719 metr |
Cyfesurynnau | 57.507106°N 6.183079°W |
Cod OS | NG4954154036 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 671 metr |
Rhiant gopa | Sgùrr Alasdair |
Cadwyn fynydd | Trotternish |
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Graham a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1]
Cerddwyr
golyguCeir llwybr cadarn sy'n cychwyn o'r A855, i'r gogledd o Loch Leathan. Mae'n dirwyn i fyny'r llethrau coediog a cheir cip bob yn hyn a hyn o'r olygfa islaw. Ar ôl 1.6 kilometr down allan o'r coed ac i dirwedd tebyg i wyneb y lleuad.
Gweler hefyd
golyguDolennau allanol
golygu- Ynysoedd Heledd
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback