The Sun Also Rises
Nofel a ysgrifennwyd ym 1926 gan yr awdur Americanaidd Ernest Hemingway yw The Sun Also Rises. Mae'r nofel yn sôn am grŵp o Americaniaid a Phrydeiniaid sy'n teithio o Baris i Ŵyl Fermín ym Mhamplona i wylio'r teirw yn rhedeg a'r brwydrau teirw. Nofel fodernaidd ydyw, a chafodd hi adolygiadau cymysg pan gafodd ei chyhoeddi gyntaf. Dywedodd y bywgraffydd Jeffrey Meyers ei bod hi'n "recognized as Hemingway's greatest work",[2] a dywedodd yr ysgolhaig Linda Wagner-Martin mai nofel bwysicach Hemingway ydyw.[3] Cyhoeddwyd y nofel yn yr Unol Daleithiau ym mis Hydref 1926 gan dŷ cyhoeddi Scribner's. Blwyddyn ar ôl, ym 1927, cyhoeddwyd tŷ cyhoeddi Prydeinig o'r enw Jonathan Cape y nofel yn Lloegr o dan y teitl Fiesta. Ers hynny, argreffir hi'n gyson.
