The West Wing
Mae The West Wing yn gyfres ddrama Americanaidd ar gyfer y teledu, ac a grëwyd gan Aaron Sorkin. Fe'i darlledwyd yn wreiddiol rhwng 22 Medi 1999 a 14 Mai 2006 ar NBC. Lleolwyd y gyfres wleidyddol ei naws, yn bennaf, yn yr adain orllewinol o'r Tŷ Gwyn lle saif y Swyddfa Hirgrwn a swyddfeydd staff hŷn yr arlywydd ffuglennol Josiah Bartlet (a chwaraewyd gan Martin Sheen) yn ystod ei weinyddiaeth Ddemocrataidd.
The West Wing | |
---|---|
Genre | Drama wleidyddol |
Crëwyd gan | Aaron Sorkin |
Serennu | Rob Lowe Alan Alda Stockard Channing Kristin Chenoweth Dulé Hill Allison Janney Moira Kelly Joshua Malina Mary McCormack Janel Moloney Richard Schiff John Spencer Bradley Whitford Jimmy Smits Martin Sheen |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 7 |
Nifer penodau | 156[1] |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 42 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | NBC |
Rhediad cyntaf yn | 22 Medi 1999 - 14 Mai 2006 |
Cynhyrchiwyd The West Wing gan Warner Bros. Television. Ar gyfer y pedair cyfres gyntaf, yr oedd tri uwch gynhyrchydd: Aaron Sorkin (a ysgrifennodd y rhan fwyaf o'r pedair cyfres gyntaf); Thomas Schlamme (prif olygydd); a John Wells. Ar ôl i Sorkin adael y gyfres, daeth Wells yn brif ysgrifennwr, gyda chyfarwyddwyr Alex Graves a Christopher Misiano (cyfresi 6-7), ac ysgrifenwyr Lawrence O'Donnell Jr. a Peter Noah (cyfres 7) yn troi'n uwch gynhyrchwyr.
Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar NBC yn 1999, ac y mae wedi cael ei darlledu ar nifer o sianeli mewn gwledydd eraill. Daeth y gyfres i ben ar 14 Mai, 2006 ar ôl saith cyfres.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mae'r ffigur hwnnw yn cynnwys y penodau arbennig "Documentary Special" ac "Isaac and Ishmael".
- ↑ Keveney, Bill (22 Ionawr, 2006). "'West Wing' to end with new president". USA Today. Cyrchwyd 12 Chwefror, 2006. Check date values in:
|accessdate=, |date=
(help)