The Wise Little Hen
Mae The Wise Little Hen yn gartŵn yn y gyfres Silly Symphonies gan gwmni Walt Disney .[2] Mae'n seiliedig ar y stori dylwyth teg Yr Iâr Fach Goch. Dyma'r ffilm gyntaf i Donald Duck ymddangos ynddo. Yn ei olygfa gyntaf fe'i gweli yn dawnsio i dôn Pibgorn y Morwr. Mae Donald a'i gyfaill Peter Pig yn ceisio osgoi gwaith trwy ffugio poen stumog nes bod Mrs. Hen yn dysgu gwerth gwaith caled iddynt. Cafodd y cartŵn ei ryddhau ar 9 Mehefin, 1934. Cafodd ei animeiddio gan Art Babbitt, Dick Huemer, Clyde Geronimi, Louie Schmitt a Frenchy de Tremaudan (gyda chymorth grŵp o animeiddwyr iau dan Ben Sharpsteen) [1] a'i chyfarwyddo gan Wilfred Jackson. Fe'i haddaswyd hefyd fel stribed comig dydd Sul gan Ted Osborne ac Al Taliaferro.
The Wise Little Hen | |
---|---|
Silly Symphonies series | |
Poster y Ffilm | |
Cyfarwyddwr | Wilfred Jackson |
Cynhyrchydd | Walt Disney |
Lleisiau | Florence Gill Clarence Nash |
Cerddoriaeth | Leigh Harline |
Animeiddio | Archie Robin Clyde Geronimi Art Babbitt Louie Schmitt Ugo D'Orsi Frenchy de Tremaudan Wolfgang Reitherman Dick Huemer [1] |
Stiwdio | The Walt Disney Company |
Dosbarthwr | United Artists |
Dyddiad rhyddhau |
|
Amser redeg | 7 munud (un rîl) |
Iaith | Saesneg |
Plot
golyguMae'r iâr fach ddoeth o'r teitl yn chwilio am rywun i'w helpu i blannu ei indrawn. Gwell gan Peter Pig a Donald Duck chware na gweithio, felly maent yn coegio bod ganddynt boen bol. Mae'n rhaid i'r iâr fach ddoeth a'i chywion plannu'r holl indrawn heb gymorth. Daw amser y cynhaeaf ac mae angen cymorth ar yr iâr fach ddoeth i gynaeafu'r indrawn. Unwaith eto, mae Peter a Donald yn honni bod ganddynt boen bol. Ond mae'r iâr yn canfod eu bod yn coegio salwch pan fo un o'r byrddau yn syrthio oddi wrth eu ffau chware ac yn dangos y ddau yn ysgwyd llaw ac yn llongyfarch eu hunain am lwyddiant eu dichell i osgoi gwaith.[2]
Mae'r iâr fach ddoeth yn coginio amrywiaeth o ddanteithion efo'r indrawn mae hi a'i chywion wedi casglu ac yn penderfynu gwadd Peter a Donald i gyd fwyta rhywfaint o'r danteithion. Cyn iddi lwyddo agor ei cheg i estyn gwahoddiad at y pryd mae'r ddau yn esgus poen bol eto gan eu bod yn tybio bod hi am ofyn am chwaneg o gymorth gyda gwaith. Unwaith mae hi'n gorffen egluro pam ei bod wedi galw heibio mae Peter a Donald yn cael gwellhad gwyrthiol o'u poenau. Yn hytrach na bwyd mae'r iâr yn rhoi dos o gastor oîl i'r ddau. Wedi gwylltio efo'i gilydd am eu ffolineb mae'r ddau yn cicio penolau' gilydd.[2]
Cast
golygu- Florence Gill – Yr iâr fach ddoeth
- Clarence Nash - Donald Duck a Peter Pig[3]
Rhyddhau fel fideo i wylio cartref
golygu- Donald Duck Volume 1 (Betamax) 1986
- Mickey Mouse & Donald Duck Volume 2 (VHS, Laserdisc) 1989
- Donald Duck's 50 Birthday (VHS, Laserdisc) 1991
- Walt Disney Treasures: Wave Three (DVD) 2005
- Walt Disney's Timeless Tales (DVD) 2006
- Walt Disney Animation Collection: Classic Short Films (DVD) 2009
Dolen allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Happy Birthday Donald Duck! Walt Disney’s “The Wise Little Hen” (1934) adalwyd 27 Medi 2018
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Fandom - The Wise Little Hen adalwyd 27 Medi 2018
- ↑ The Wise Little Hen ar IMDb adalwyd 27 Medi 2018