Donald Duck

cymeriad cartŵn Disney

Mae Donald Duck yn gymeriad cartŵn a grëwyd ym 1934 gan gwmni Walt Disney Productions. Mae Donald yn hwyaden wen anthropomorffig gyda phig, coesau a thraed melyn-oren. Yn nodweddiadol mae'n gwisgo crys a chap morwr gyda thei bô [1]. Mae Donald yn enwog am ei leferydd lled ddealladwy a'i bersonoliaeth ddrygionus a gwamal. Ynghyd â'i ffrind Mickey Mouse, mae Donald yn un o'r cymeriadau mwyaf poblogaidd Disney ac fe'i cynhwyswyd yn rhestr Tv Choice o'r 50 o gymeriadau cartŵn gore erioed yn 2002.[2] Mae wedi ymddangos mewn mwy o ffilmiau nag unrhyw gymeriad Disney arall, ac ef yw'r cymeriad llyfr comic sydd wedi ymddangos yn y nifer fwyaf o gyhoeddiadau yn y byd y tu allan i'r genre uwch-arwyr.

Donald Duck
Enghraifft o'r canlynolhwyaden anthropomorffig, cymeriad mewn comic, cymeriad animeiddiedig, cymeriad teledu, cymeriad ffilm, cymeriad gêm fideo, Cymeriad bydysawd craidd Disney Edit this on Wikidata
CrëwrDick Lundy, Walt Disney Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn, melyn, oren Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Rhan oSensational Six Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu9 Mehefin 1934 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://mickey.disney.com/donald Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cododd Donald Duck i enwogrwydd gyda'i rolau comedi mewn cartwnau animeiddiedig. Roedd ymddangosiad cyntaf Donald yn 1934 yn The Wise Little Hen,[3] ond ei ail ymddangosiad yn Orphan's Benefit a'i cyflwynodd fel ffoil comig gwamal i Mickey Mouse. Drwy gydol y ddwy ddegawd nesaf, ymddangosodd Donald mewn dros 150 o ffilmiau theatrig, a chafodd nifer ohonynt eu cydnabod yng Ngwobrau'r Academi. Yn y 1930au, fel arfer roedd yn ymddangos fel rhan o driawd comic gyda Mickey a Goofy a rhoddwyd ei gyfres ffilm ei hun iddo ym 1937 gan ddechrau gyda Don Donald. Cyflwynodd y ffilmiau cariad Donald, Daisy Duck, ac yn aml roeddynt yn cynnwys ei dri nai Huey, Dewey a Louie. Ar ôl y ffilm 1956 Chips Ahoy, ymddangosodd Donald yn bennaf mewn ffilmiau addysgol cyn dychwelyd i'r theatr animeiddiad yn y ffilm Mickey's Christmas Carol (1983). Ei ymddangosiad diweddaraf mewn ffilm theatrig oedd Fantasia 2000 ym 1999. Mae Donald hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau syth i fideo megis Mickey, Donald, Goofy: The Three Musketeers (2004), cyfres deledu megis Mickey Mouse Clubhouse (2006-2016 ), a gemau fideo megis QuackShot (1991).

Y tu hwnt i ffilmiau animeiddiad, mae Donald yn adnabyddus yn bennaf am ei ymddangosiadau mewn comics. Cafodd ei darlunio yn bennaf gan Al Taliaferro, Carl Barks, a Don Rosa. Mae Barks, yn arbennig, yn cael ei gredydu am ehangu'r "bydysawd Donald Duck", y byd y mae Donald yn byw ynddo, a chreu nifer o gymeriadau ychwanegol megis ewythr cyfoethog Donald Scrooge McDuck. Mae Donald wedi bod yn gymeriad poblogaidd iawn yn Ewrop, yn enwedig mewn gwledydd Nordig lle'r oedd ei gylchgrawn wythnosol Donald Duck & Co y cyhoeddiad comic mwyaf poblogaidd o'r 1950au hyd 2009. Mae Donald hefyd yn boblogaidd iawn yn yr Eidal, lle mae'n gymeriad mawr mewn llawer o gomics a lle crëwyd ei fersiwn ieuanc ohono  Paperino Paperotto a'i hunan arall uwcharwrol Paperinik (Duck Avenger yn UDA a Superduck yn y DU).

Cyfeiriadau

golygu
  1. Disney wikia Donald Duck adalwyd 26 Medi 2018
  2. TV Guide's 50 greatest cartoon characters of all time Archifwyd Gorffennaf 16, 2011, yn y Peiriant Wayback. CNN. 2002-06-30, retrieved 2011-06-04.
  3. Britannica Donald Duck adalwyd 26 Medi 2018