Theatr Bolshoi
Theatr hanesyddol ym Moscfa, Rwsia, yw'r Theatr Bolshoi (Rwseg: Большо́й теа́тр, tr. Bol'shoy Teatr, IPA: [bɐlʲˈʂoj tʲɪˈatr]), a ddyluniwyd gan y pensaer Joseph Bové ac sy'n enwog am yr operâu a'r balet a gaiff eu cynnal yno.
Math | sefydliad, cwmni theatr, theatr |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Theatre Square, Moscfa |
Sir | Tverskoy District |
Gwlad | Rwsia |
Cyfesurynnau | 55.7603°N 37.6186°E |
Caiff ei gyfri'n dirnod amlwg yn Rwsia oherwydd pensaerniaeth neoglasurol ei ffasâd, sydd i'w weld ar bapur 100-ruble. Ar 28 Hydref 2011 ailagorwyd y Bolshoi wedi chwe mlynedd o waith adnewyddu.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Bolshoi Theatre to reopen after major refit", BBC News on bbc.co.uk, 28 Hydref 2011