Clwyd Theatr Cymru
theatr rhestredig Gradd II yn Yr Wyddgrug
(Ailgyfeiriad o Theatr Clwyd)
Canolfan celfyddydau ranbarthol gogledd-ddwyrain Cymru yw Clwyd Theatr Cymru (a adnabyddid fel Theatr Clwyd hyd 1998). Fe'i lleolir tua 1 filltir o'r Wyddgrug, yn Sir y Fflint.
Math | canolfan y celfyddydau, theatr, sinema ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Yr Wyddgrug ![]() |
Sir | Yr Wyddgrug ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 140.7 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1793°N 3.1368°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II ![]() |
Manylion | |
Ceir pump auditoria yno:
- Theatr Anthony Hopkins (570 sedd).
- Theatr Emlyn Williams (hyd at 250 sedd, lleoliad addasadwy).
- Stiwdio 2 (hyd at 120 sedd, lleoliad addasadwy)
- Stafell Clwyd (lleoliad amlbwrpas, hyd at 300 sedd).
- Sinema (120 sedd).
Yr enw Golygu
Mae'r enw newydd wedi ennyn beirniadaeth gan Gymry Cymraeg ac eraill am fod llawn mor "ystyrlon" â'r enw newydd Venue Cymru a fathwyd ar gyfer Theatr Gogledd Cymru, Llandudno, h.y. mae heb fod yn Gymraeg na Saesneg a dydi'r un o'r ddwy theatr yn gwasanaethu Cymru gyfan.