Theatr y Sherman
Theatr yn ardal Cathays, Caerdydd yw Theatr y Sherman (Saesneg: Sherman Theatre). Fe’i hadeiladwyd fel lleoliad deuol awditoriwm ym 1973 gyda chymorth ariannol gan Goleg Prifysgol Caerdydd (Prifysgol Caerdydd bellach). Sherman Cymru oedd enw'r theatr rhwng 2007 a 2016, pan newidiwyd yr enw yn ôl i Theatr y Sherman.[1]
Math | theatr, sefydliad elusennol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 51.4879°N 3.1766°W |
Cafodd y theatr ei henwi ar ôl y brodyr Sherman, sylfaenwyr Sherman Football Pools, a roddodd arian i'w hadeiladu.
Mae C.W.L (Bill) Bevan, Pennaeth Coleg Prifysgol Caerdydd (Prifysgol Caerdydd bellach) yn cynnull gweithgor i ddatblygu cynnig Geoffrey Axworthy i ddefnyddio rhodd sylweddol gan Sefydliad Harry ac Abe Sherman i’r Coleg i greu canolfan gelfyddydau nodedig mawr yn y ddinas.
Agorwyd Theatr y Sherman ar 3 Hydref 1973, gyda dangosiad o'r ffilm Savage Messiah gan Ken Russell yn y Brif Theatr. Serch hynny, nid oedd yr agoriad swyddogol tan 23 Tachwedd 1973, pan wnaeth y Tywysog Philip agor y drysau gydag ymddangosiad o waith Dylan Thomas yn yr arena.
Erbyn hyn mae gan y sefydliad ddau safle perfformio, sef y Brif Theatr, gyda 452 o seddi, a'r stiwdio/arena, gyda 100 o seddi. Yn 2007 ymunodd Cwmni Theatr y Sherman a Sgript Cymru i greu cwmni enw o dan yr enw Sherman Cymru.
Enillodd y Sherman yr "UK Theatre Award" am "Best New Play 2015" ar gyfer Iphigenia in Splott gan Gary Owen. Enillodd Sophie Melville (actores Iphigenia) wobr actio yn The Stage hefyd. Enillodd cydweithrediad Gary Owen a Rachel O'Riordan; sef Killology, wobr yn y gwobrau Olivier hefyd yn 2018.
Enillodd Theatr y Sherman Fringe First ag yr Herald Angel Award yn 2008 gyda'i chynhyrchiad taith; Deep Cut.
Cyfarwyddwyr artistig
golygu- 1973-1988: Geoffery Axworthy
- 1988-1989: Mike James
- 1990-2006: Phil Clark
- 2006-2014: Chris Ricketts
- 2014-2019: Rachel O'Riordan
- 2019-presennol: Joe Murphy
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "LLINELL AMSER STORI'R SHERMAN". Sherman Theatre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-29.