Themistocles
Roedd Themistocles (Groeg: Θεμιστοκλῆς; tua 524 - 459 CC) yn arweinydd yn y Weriniaeth Atheniaidd yn ystod Rhyfeloedd Groeg a Phersia. Roedd yn ffafrio estyniad o'r llynges i gyfarfod y bygythiad oddi wrth Ymerodraeth Persia, a pherswadiodd ef yr Atheniaid i wario yr arian dros ben a gynhyrchwyd gan eu chwareli arian, ar adeiladu llongau newydd. Tyfod llynges yr Atheniaid o 70 i 200 llong.
Themistocles | |
---|---|
Ganwyd | 524 CC Athen |
Bu farw | 459 CC Magnesia on the Maeander |
Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd, Yr Ymerodraeth Achaemenaidd |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | eponymous archon, strategos |
Tad | Neocles |
Mam | Abrotonon |
Priod | Archippe |
Plant | Archeptolis, Mnesiptolema, Nikomache, Asia |
Roedd Themistocles yn fab i Neocles, Atheniwr ddi-bwysigrwydd ac o gyfoedd canolig, roedd ei fam yn Carian neu'n Thracian, Abrotonum yn ôl rhai cofnodion.[1] Ni wyddwn fawr am ei ddyddiau cynnar, ond mae sawl awdur yn hoff o'r chwedl y bu'n blentyn â ymddygiad drwg a gafodd ei ddiarddel gan ei dad (e.e. Libanius Declamation 9 a 10; Aelian; Cornelius Nepos "Themistocles"). Efallai na welwyd ef fel strategos y llwyth ym Mrwydr Marathon a dywedir y bu'n genfigenus o lwyddiant Miltiades, gan ail-adrodd iw hun, "Ni arweiniai gwobr Miltiades mi at gwsg" (Groeg: Οὐκ ἐᾷ με καθεύδειν τὸ τοῦ Μιλτιάδου τρόπαιον).
Ffynonellau a Nodiadau
golygu- ↑ William Smith, Abrotonum, Teitl: Dictionary of Greek and Roman Biography and Mythology, Cyfres: 1, Tudalen: 3, Cyhoeddwyd: Boston, MA, 1867, URL: [1] Archifwyd 2005-12-31 yn y Peiriant Wayback
Llyfryddiaeth
golygu- JACT, The World of Athens
- Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r Encyclopædia Britannica yr 11fed argraffiad. 1911.
- Hornblower, Simon and Spawforth, Antony (ed.), The Oxford Companion to Classical Civilization (Oxford: Oxford University Press, 1998).
Dolenni Allanol
golygu- Livius.org, ThemistoclesArchifwyd 2012-01-12 yn y Peiriant Wayback by Jona Lendering