Yr Ymerodraeth Achaemenaidd
Ymerodraeth hynafol yr Iraniaid oedd yr Ymerodraeth Achaemenaidd, a elwir hefyd Ymerodraeth Gyntaf Persia, a sefydlwyd gan Cyrus Fawr o frenhinllin yr Achaemeniaid yn 550 CC. Cafodd ei chanoli yng Ngorllewin Asia, ac ehangodd i'r Balcanau a'r Aifft yn y gorllewin ac i Ganolbarth Asia a Dyffryn Indus yn y dwyrain, ac ar y pryd dyma oedd yr ymerodraeth fwyaf yn hanes y byd gyda chyfanswm ei thiriogaeth yn 5.5 million metr sgcilowar (2.1 million milltir sgwar).[1][2]
Tiriogaeth yr Ymerodraeth Achaemenaidd ar ei hanterth, dan y Brenin Darius Fawr (522–486 CC). | |
Math | gwlad ar un adeg, cyfnod o hanes |
---|---|
Enwyd ar ôl | Brenhinllyn yr Achaemenid |
Prifddinas | Babilon, Pasargadae, Persepolis, Susa, Ecbatana |
Poblogaeth | 17,000,000, 35,000,000 |
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Achaemenid Period, Medo-persia, Ymerodraeth Persia |
Gwlad | Medo-persia |
Arwynebedd | 5,500,000 km² |
Yn ffinio gyda | Sgythia |
Cyfesurynnau | 33°N 44°E |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | King of Kings |
Crefydd/Enwad | Zoroastriaeth, Babylonian religion, crefydd yr Hen Aifft |
Arian | Persian daric, siglos |
Oddeutu'r 7g CC, anheddwyd ardal Persis, yn ne-orllewin Llwyfandir Iran, gan y Persiaid.[3] Yno daeth Cyrus i rym a gorchfygai Ymerodraeth Medes, yn ogystal â Lydia a'r Ymerodraeth Neo-Fabilonaidd, gan sefydlu gwladwriaeth imperialaidd newydd dan reolaeth y brenhinoedd Achaemenaidd.
Cydnabyddir yr Ymerodraeth Achaemenaidd gan ysgolheigion modern am ei weinyddiaeth fiwrocrataidd ganoledig; ei pholisi amlddiwylliannol; ei hisadeiledd ac adeiladweithiau cymhleth, gan gynnwys ffyrdd a system bost; ei defnydd o ieithoedd swyddogol ar draws ei thiriogaethau; a datblygiad proffesiynol ei gwasanaethau sifil a'i lluoedd arfog. Byddai llwyddiannau'r Achaemeniaid yn ysbrydoli dulliau tebyg o lywodraethu gan ymerodraethau diweddarach.[4]
Erbyn 330 CC, cafodd yr Ymerodraeth Achaemenaidd ei choncro gan Alecsander Fawr, a edmygai Cyrus yn frwd, un o brif fuddugoliaethau ei ymgyrch i ehangu Ymerodraeth Macedonia.[5][6] Nodai marwolaeth Alecsander ddechrau'r oes Helenistaidd, pan ddaeth y rhan fwyaf o diriogaeth yr hen Ymerodraeth Achaemenaidd dan reolaeth y Deyrnas Ptolemaidd a'r Ymerodraeth Selewcaidd, y ddwy a ymddangosodd yn olynwyr i Ymerodraeth Macedonia yn sgil Rhaniad Triparadisus yn 321nbsp;CC. Teyrnasai'r Helenistiaid ar Bersia am gan mlynedd bron cyn i uchelwyr Iranaidd o ganolbarth y llwyfandir adennill grym a sefydlu Ymerodraeth Parthia.[3]
Brenhinoedd
golygu- Cyrus Fawr (559–530 CC)
- Cambyses II (530–522 CC)
- Gaumata (522 CC)
- Darius Fawr (522–486 CC)
- Xerxes I (486–465 CC)
- Artaxerxes I (465–424 CC)
- Xerxes II (424 CC)
- Sogdianus (424–423 CC)
- Darius II (423–405 CC)
- Artaxerxes II (405–358 CC)
- Artaxerxes III (358–338 CC)
- Arses (338–336 CC)
- Darius III (336–330 CC)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Turchin, Peter; Adams, Jonathan M.; Hall, Thomas D (Rhagfyr 2006). "East-West Orientation of Historical Empires". Journal of World-Systems Research 12 (2): 223. ISSN 1076-156X. http://jwsr.pitt.edu/ojs/index.php/jwsr/article/view/369/381. Adalwyd 12 Medi 2016.
- ↑ Taagepera, Rein (1979). "Size and Duration of Empires: Growth-Decline Curves, 600 B.C. to 600 A.D". Social Science History 3 (3/4): 121. doi:10.2307/1170959. JSTOR 1170959.
- ↑ 3.0 3.1 Sacks, David; Murray, Oswyn; Brody, Lisa (2005). Encyclopedia of the Ancient Greek World. Infobase Publishing. t. 256. ISBN 978-0-8160-5722-1.
- ↑ Schmitt, Rüdiger (21 Gorffennaf 2011). "Achaemenid Dynasty". Encyclopædia Iranica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2011. Cyrchwyd 4 Mawrth 2019.
- ↑ Ulrich Wilcken (1967). Alexander the Great. W.W. Norton & Company. t. 146. ISBN 978-0-393-00381-9.
- ↑ Taagepera, Rein (1979). "Size and Duration of Empires: Growth-Decline Curves, 600 B.C. to 600 A.D". Social Science History 3 (3/4): 123. doi:10.2307/1170959. JSTOR 1170959.