This Is My Life (cân Anna Bergendahl)
Cân a ysgrifennwyd gan Bobby Ljunggren (cerddoriaeth) a Kristian Lagerström (telynegion) a pherfformir gan Anna Bergendahl yw "This Is My Life". Enillodd y gân Melodifestivalen 2010 ar 13 Mawrth felly cynrychiolodd Bergandahl Sweden gyda'r gân hon yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2010 yn Oslo, Norwy.
"This Is My Life" | |||||
---|---|---|---|---|---|
Sengl gan Anna Bergendahl | |||||
o'r albwm Yours Sincerely | |||||
Rhyddhawyd | 28 Cwefror 2010 | ||||
Fformat | Sengl CD, sengl digidol | ||||
Recodriwyd | 2010 | ||||
Genre | Pop | ||||
Parhad | 3:02 | ||||
Label | Lionheart International | ||||
Cynhyrchydd | Dan Sundquist | ||||
Anna Bergendahl senglau cronoleg | |||||
|
"This Is My Life" | |||||
---|---|---|---|---|---|
Mae Anna Bergendahl yn perfformio yn yr ail rownd cyn-derfynol. | |||||
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010 | |||||
Blwyddyn | 2010 | ||||
Gwlad | Sweden | ||||
Artist(iaid) | Anna Bergendahl | ||||
Iaith | Saesneg | ||||
Cyfansoddwr(wyr) | Bobby Ljunggren | ||||
Ysgrifennwr(wyr) | Kristian Lagerström | ||||
Perfformiad | |||||
Canlyniad cyn-derfynol | 11eg | ||||
Pwyntiau cyn-derfynol | 62 | ||||
Cronoleg ymddangosiadau | |||||
|
"This Is My Life" oedd sengl rhif un cyntaf Bergendahl. Aeth i rif un yn Sweden ar 5 Mawrth 2010 ac arhosodd ar frig y siart am bedair wythnos yn ddilynol.[1]
"This Is My Life" oedd y faled gyntaf i ennill Melodifestivalen ers enillodd Kärleken är yn 1998. Hefyd, y gân hon oedd 50fed ymgais Sweden i ennill Cystadleuaeth Cân Eurovision. Daeth Bergendahl yn 11eg gyda 62 pwynt (roedd hi'n bum pwynt y tu ôl y 10fed lleoliad) yn yr ail rownd cyn-derfynol ar 27 Mai 2010 yn Oslo. Ni symudodd hi'n ymlaen i'r rownd derfynol, yr artist cyntaf o Sweden i wneud hyn ers pan gyflwynwyd y rownd(iau) cyn-derfynol yn 2004.[2]
Siart
golyguSiart (2010) | Lleoliad uchaf |
---|---|
Siart Senglau Hwngari | 40[3] |
Siart Senglau'r Iseldiroedd | 93[4] |
Siart Senglau Norwy | 6[5] |
Siart Senglau Sweeden | 1[6] |
Siart Senglau'r Swistir | 62[7] |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Anna Bergendahl - This Is My Life
- ↑ "5 from 6 Swedish songs qualify". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-10. Cyrchwyd 2010-09-07.
- ↑ Anna Bergendahl - This is My Life (Hwngari)
- ↑ Anna Bergendahl - This is My Life (Yr Iseldiroedd)
- ↑ Anna Bergendahl - This is My Life (Norwy)
- ↑ Anna Bergendahl - This is My Life (Sweden)
- ↑ Anna Bergendahl - This is My Life (Y Swistir)
Dolenni allanol
golyguGwefan swyddogol (Swedeg)