Thomas Henry (apothecari)
Llawfeddyg ac apothecari oedd Thomas Henry (26 Hydref 1734 – 18 Mehefin 1816).[1] Roedd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol, a hefyd yn dad i William Henry, y fferyllydd a greodd 'Deddf Henry'.
Thomas Henry | |
---|---|
Ganwyd | 26 Hydref 1734 Wrecsam |
Bu farw | 18 Mehefin 1816 Manceinion |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cemegydd, fferyllydd, llawfeddyg |
Swydd | ysgrifennydd, llywydd corfforaeth, llywydd corfforaeth |
Tad | Noah Thomas |
Plant | William Henry |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Ganwyd Henry yn Wrecsam, ac fe'i hyfforddyd fel llawfeddyg-apothecari yn y dref honno.[2] Symudodd yn ddiweddarach i Fanceinion, Lloegr.[3] Ef a ddyfeisiodd y broses ar gyfer paratoi magnesia alba yn 1771 a daeth yn adnabyddus fel "Magnesia" Henry. Roedd yn sylfaenydd ac wedyn yn llywydd Cymdeithas Lenyddol ac Athronyddol Manceinion.[4]
Yn 1776, gwnaeth ddatganiad syfrdanol - y byddai dephlogisticated air (a elwir heddiw'n ocsigen ac a oedd newydd gael ei ddarganfod gan Joseph Priestley) yn dod "mor ffasiynol a gwin Ffrainc mewn tafarnau".[5]
Wedi i Priestley gyhoeddi dull o wneud dyn dŵr carbonedig (carbonated water) dechreuodd Henry gynhyrchu a marchnata Pyrmont a dwr Seltzer ("artificial Pyrmont and Seltzer waters") yn niwedd y 1770au, gan ddynwared diodydd pefriog dŵr mwynol, y cwmni Selters.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jenkins, Robert Thomas. "Biography of Thomas Henry". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2011.
- ↑ Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Caerdydd: University of Wales Press. t. 364. ISBN 978-0-7083-1953-6.
- ↑ Craig Thornber, "Thomas Henry, FRS and his son, William Henry, MD, FRS, GS", Cheshire Antiquities
- ↑ The Book of Manchester and Salford; for the British Medical Association. Manchester: George Falkner & Sons, 1929; tt. 34-35
- ↑ Thomas Henry F. R. S. “Essays Physical and Chemical by M. Lavoisier – Translated from the French, with Notes, and an Appendix, by Thomas Henry”, note from The London Review of English and Foreign Literature by W. Kenrick, Vol IV, T. Evans, Pater-Noster-Row, 1776, t 214
- ↑ http://www.britishsoftdrinks.com/PDF/history.pdf