Dŵr mwynol
Defnyddir y term "dŵr mwynol" neu "dŵr mwyn" ar lafar yn aml gan olygu dŵr carbonedig (sydd fel arfer yn ddŵr mwynol carbonedig, yn hytrach na dŵr tap).
Math | dŵr, diod |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dŵr sy'n cynnwys mwyn a sylweddau eraill wedi eu hydoddi yw dŵr mwynol[1] (weithiau dŵr mwyn), dyma rhoddir iddo ei flas neu ei werth therapiwtig. Gall y dŵr gynnyws halen, cyfansoddion sylffwr, a nwyon ymysg nifer o gyfansoddion eraill. Gall dŵr mwynol yn aml fod yn eferw, gall ddigwydd yn naturiol neu ei greu.
Yn draddodiadol, yfwyd dŵr mwynol wrth y darddell, cyfeirwyd at rhain yn aml fel sba, baddon neu ffynnon. Defnyddiwyd y gari sba pan ddefnyddwyd y dŵr i ymolchi ynddo a'i yfed, a baddon pan na yfwyd y dŵr yn gyffredinol, a ffynnon pan na ymolchwyd yn y dŵr yn gyffredinol. Tyfodd canolfan twristiaeth oamgylch y tarddiad yn aml, megis Caerfaddon.
Yn ddiweddar, mae'n gyffredin i nifer o darddellau gael eu defnyddio er mwyn potelu dŵr mwynol wrth y darddell a'i dosbarthu. Mae'n anghyfredin i bobl deithio i'r darddell er mwyn yfed dŵr mwynol heddiw, ac yn aml mae'n amhosibl gan fod y ffynhonnell weid ei lleoli ar dir preifat. Mae drost tri mil o frandiau dŵr mwynol ar gael yn fasnachol yn fyd eang.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "mineral"
- ↑ Water from all over the World