Thomas Herring
offeiriad (1693-1757)
Clerigwr Seisnig a fu'n Esgob Bangor o 1737 hyd 1743 ac yn ddiweddarach yn Archesgob Efrog ac yn Archesgob Caergaint oedd Thomas Herring (1693 - 23 Mawrth 1757).
Thomas Herring | |
---|---|
Ganwyd | 1693 Norfolk |
Bu farw | 23 Mawrth 1757 Croydon |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Archesgob Efrog, Archesgob Caergaint, Esgob Bangor |
Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Wisbech a Choleg yr Iesu, Caergrawnt. Roedd yng Nghaergrawnt gyda Matthew Hutton, a'i dilynodd ym mhob un o'i swyddi yn nes ymlaen.
Daeth yn gaplan i'r brenin Siôr II yn 1728, ac apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1737, Daeth yn Archesgob Efrog yn 1743 ac yn Archesgob Caergaint yn 1747, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth.