Thomas Heywood
Dramodydd ac actor o Loegr oedd Thomas Heywood (tua 1574 – 16 Awst 1641) a flodeuai yn ystod oes y theatr Elisabethaidd ac Iagoaidd.
Thomas Heywood | |
---|---|
Ganwyd | 1574 Swydd Lincoln |
Bu farw | 16 Awst 1641 Clerkenwell |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, llenor, actor llwyfan, actor |
Ni wyddys llawer am fywyd cynnar Heywood. Credir iddo hanu o Swydd Lincoln, ac astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, er nad oes cofnod ohono.[1] Ysgrifennai i'r Lord Admiral's Men, cwmni theatr dan arweiniad Philip Henslowe, erbyn 1596, ac yn ddiweddarach bu'n un o ddramodwyr blaenllaw y Queen Anne's a'r Lady Elizabeth's Men yn chwaraedai'r Red Bull a'r Cockpit.[2]
Honnodd Heywood ysgrifennu 220 o ddramâu, ond dim ond tua 30 ohonynt sydd yn goroesi heddiw.[1] Y ddrama gartref oedd ei gryfder. Ymhlith ei weithiau gorau mae A Woman Killed with Kindness (perfformiwyd 1603, argraffwyd 1607), The Fair Maid of the West (argr. 1631). a The English Traveller (argr. 1633). Mae ei ddramâu amlwg eraill yn cynnwys The Four Prentices of London (perff. tua 1600, argr. 1615), a ddychanir yn The Knight of the Burning Pestle gan Francis Beaumont; Edward IV (dwy ran, 1599); The Rape of Lucrece (1608); The Royal King and the Loyal Subject (argr. 1637); The Wise Woman of Hogsdon (tua 1604, argr. 1638); ac o bosib Fair Maid of the Exchange (argr. 1607), o awduraeth ansicr. Yn The Golden Age (1611), The Brazen Age (1613), The Silver Age (1613), a The Iron Age(dwy ran, 1632) ceir dramateiddiad panoramaidd o fytholeg glasurol. Ystyrir An Apology for Actors (1612) yn grynodeb gwych o'r dadleuon traddodiadol o blaid y theatr, a cheir sawl anecdot da o fywyd theatraidd Oes Iago.[2]
Cyhoeddodd Heywood hefyd farddoniaeth (gan gynnwys The Hierarchy of the Blessed Angels, 1635), cyfieithiadau, a phasiantau ar gyfer saith Sioe'r Arglwydd Faer. Ceir dwy ddrama, The Captives (1624) a The Escape of Jupiter (fersiwn erotig i raddau o'r Golden a Silver Ages) yn goroesi yn ei law ei hun.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Thomas Heywood. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Hydref 2022.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 466.