Cyfnod yn hanes Lloegr a barodd teyrnasiad y Brenin Iago I (1603–25) oedd Oes Iago. Er yr oedd Iago hefyd yn frenin yr Alban ers 1567, defnyddir y term gan amlaf i gyfeirio at ei gyfnod ar orsedd Lloegr yn unig. Rhagflaenwyd Oes Iago gan Oes Elisabeth (1558–1603), a fe'i olynwyd gan Oes Siarl (1625–49). Defnyddir y termau "Iagoaidd" neu "Jacobeaidd" i gyfeirio at gelfyddydau a ffasiynau'r cyfnod hwn, a oedd i raddau helaeth yn ddatblygiadau ar ddiwylliant Oes Elisabeth.[1]

Oes Iago
Enghraifft o'r canlynolcyfnod o hanes Edit this on Wikidata
Rhan oCyfnod y Stiwartiaid Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1603 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1625 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganOes Elisabeth Edit this on Wikidata
Olynwyd ganOes Siarl Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Llenyddiaeth a'r theatr golygu

Yn Oes Elisabeth, cynhyrchwyd traddodiad yn y theatr Saesneg a ystyrir bellach yn un o'r cyfnodau gwychaf yn llenyddiaeth yr holl fyd. Dyma oedd oes y Dadeni Seisnig, a oedd yn hwyr i gyrraedd Lloegr o gymharu â'r Dadeni ar y cyfandir, a pharhaodd hyn trwy gydol Oes Iago. William Shakespeare (1564–1616) a Ben Jonson (1572–1637) oedd prif ddramodwyr y theatr Saesneg yn nechrau'r 17g. Ysgrifennodd Shakespeare comedïau arloesol yn ogystal â'i drasiedïau clasurol ac hanesion canoloesol, ac yn ôl nifer Shakespeare ydy'r llenor gorau yn holl lenyddiaeth yr iaith Saesneg, un o'r ffigurau diwylliannol rhagoraf yn hanes diwylliannol Lloegr, ac un o'r ddramodwyr pwysicaf o unrhyw wlad. Ymhlith enwau eraill y cyfnod mae Francis Beaumont (1584–1616) a John Fletcher (1579–1625). Roedd nifer o'r rhain yn feirdd yn ogystal â dramodwyr.

Un gwaith a gafodd ddylanwad sylweddol ar lên Lloegr yn y ganrif hon, ac ar yr iaith Saesneg ei hun, oedd Beibl Saesneg y Brenin Iago, neu'r Fersiwn Awdurdodedig, a gyhoeddwyd yn 1611. O bosib dyma'r rhyddiaith bwysicaf yn holl lenyddiaeth y Saeson, cyfieithiad o'r Beibl a gafodd effaith hollbwysig ar hunaniaeth ac hanes Eglwys Loegr. Prif athronydd Lloegr yn Oes Iago oedd Francis Bacon (1561–1626), arloeswr y dull gwyddonol. Ysgrifennodd y mwyafrif o'i draethodau athronyddol a gwyddonol yn Lladin, ac roedd hefyd yn ysgrifwr Saesneg o nod.

Pensaernïaeth a dodrefn golygu

Nodweddir pensaernïaeth Iagoaidd gan addurnau o'r cyfnod Gothig Sythlin diweddar gyda manylion clasurol, dan ddylanwad pensaernïaeth Fflandrys. Nodwedd gyffredin ydy'r bwa Tuduraidd pigfain mewn drysau a ffenestri, ac yn fewnol defnyddir paneli syml yn y dull Tuduraidd ac weithiau fowtiau Gothig Sythlin. Câi drysau, lleoedd tân, ac ati eu fframio gan ffurfiau clasurol, ac yn fewnol ac allanol gwelir atgolofnau, termini, troellwaith siâp-S, a strapwaith.

Yn Oes Iago hefyd codwyd yr esiampl fawr gyntaf o bensaernïaeth glasurol y Dadeni yn Lloegr, y Tŷ Gwledda (1619–22) yn Whitehall gan Inigo Jones, ar sail arddull yr Eidalwr Andrea Palladio. O ganlyniad i gampwaith Jones, daeth Paladiaeth yn boblogaidd yn Lloegr trwy gydol Oes Siarl.

Gwnâi dodrefn Iagoaidd gan amlaf o dderw, a chyda ffurfiau trymion a choesau bylbaidd.

Celf golygu

Ni flodeuai'r celfyddydau gweledol eraill yn Oes Iago o'u cymharu â phensaernïaeth. Prif arlunydd y cyfnod oedd y mân-ddarluniwr Isaac Oliver, Roedd mwyafrif arlunwyr portreadau a cherflunwyr yn Lloegr yn ystod Oes Iago yn dramorwyr, neu wedi eu dylanwadu'n gryf gan arddulliau Ewropeaidd, yn eu plith Marcus Gheerhaerts yr Ieuaf, Paul von Somer, Cornelius Johnson, a Daniel Mytens.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Jacobean age. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Hydref 2020.