The Knight of the Burning Pestle
Comedi Saesneg o Oes Iago yw The Knight of the Burning Pestle a briodolid gynt i Francis Beaumont a John Fletcher, ond priodolir bellach i law Beaumont yn unig. Perfformiwyd, mae'n debyg, ym 1607–08, a fe'i argraffwyd yn ddienw ym 1613.[1]
![]() Tudalen glawr The Knight of the Burning Pestle (1613). | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Label brodorol | The Knight of the Burning Pestle ![]() |
Awdur | Francis Beaumont ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1607 ![]() |
Genre | pastiche, comedi ![]() |
Lleoliad y perff. 1af | Blackfriars Theatre ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
Enw brodorol | The Knight of the Burning Pestle ![]() |
![]() |
Mae'r ddrama hon yn dychanu'r marchog crwydr a dramâu gwladgarol yr oes, yn eu plith The Four Prentices of London gan Thomas Heywood a The Travels of the Three English Brothers gan John Day, William Rowley, a George Wilkins, a rhamantau poblogaidd megis Palmerin of England.[1]
Drama-o-fewn-drama ydy strwythur y plot: mae groser a'i wraig yn y gynulleidfa yn torri ar draws prolog The London Merchant i fynnu rhan ar y llwyfan i'w prentis, Rafe. Rhoddir iddo rôl y "Groser Crwydr", gyda darlun Pestl Llosg ar ei darian, ac mae'n cael sawl antur gan gynnwys rhyddhau cleifion a garcharwyd yn siop y barbwr "Barbarossa". Perfformir y golygfeydd hyn yn ogystal â stori go iawn The London Merchant, sydd yn canolbwyntio ar gariad y prentis marsiandïwr Jasper a merch ei feistr, Luce.[1]