Thomas Jeremiah Williams
Roedd Thomas Jeremiah Williams (1872 - 12 Mehefin 1919) yn fargyfreithiwr, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol.
Thomas Jeremiah Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1872 |
Bu farw | 12 Mehefin 1919 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | William Williams (AS Abertawe) |
Bywyd Personol
golyguRoedd Thomas Jeremiah Williams, yn fab i William Williams Aelod Seneddol Dosbarth Abertawe. Cafodd ei addysgu yn University College School, Llundain, Coleg Technegol Sheffield a Choleg Firth.
Priododd Laura Alice Marlow. Ganwyd iddynt un ferch: Gwenith Alice Thomas (née Williams) 22/10/1913 - 11/01/2008.
Gyrfa
golyguRoedd Williams yn gweithio yn y sector hyfforddiant technegol a masnachol. Roedd yn gyfarwyddwr ar nifer o gwmnïau, yn bennaf yn y diwydiant tunplat, ond hefyd â buddiannau yn y sectorau pwll glo a'r rheilffordd. Cymhwysodd yn fargyfreithiwr ym 1902 gan ymarfer yng Nghylchdaith Cymru a Chaer.[1]
Gyrfa Gwleidyddol
golyguSafodd Williams yn enw'r Blaid Ryddfrydol yn etholaeth Gŵyr gan gael ei drechu gan ymgeisydd Rhyddfrydol Llafur, Eryr Glan Gwawr ym 1906, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Dosbarth Abertawe mewn isetholiad ym 1915 gan ddal y sedd hyd ddiddymu'r sedd ym 1918. Cafodd ei ethol yn AS cyntaf etholaeth newydd Dwyrain Abertawe ym 1918, ond bu farw yn 47 mlwydd oed y flwyddyn ganlynol.[2]
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Brynmor Jones |
Aelod Seneddol dros Dosbarth Abertawe 1915 – 1918 |
Olynydd: diddymu'r etholaeth |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Dwyrain Abertawe 1918 – 1919 |
Olynydd: David Matthews |