William Williams (AS Abertawe)

Roedd William Williams (14 Tachwedd 1840 - 21 Ebrill 1904)[1] yn ddiwydiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig, yn berchennog gweithfeydd tunplat ac yn Aelod Seneddol.

William Williams
Ganwyd14 Tachwedd 1840 Edit this on Wikidata
Treforys Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 1904 Edit this on Wikidata
Llangyfelach Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
PlantThomas Jeremiah Williams Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd William Williams yn Nhreforus yn fab i William Williams, llifwr coed. Priododd Margaret Jeremiah ym 1867, sef merch David Jeremiah, perchennog ffowndri Cwmdu. Cawsant bump o blant gan gynnwys Thomas Jeremiah Williams AS Abertawe 1915-1919. Bu Margaret farw ym 1893 ac ail briododd William gyda Maria Williams a bu iddynt un ferch.[2]

Gyrfa golygu

Ni chafodd Williams fawr o addysg ffurfiol ac aeth i weithio yn ffowndri tunplat y Fforest Uchaf yn ifanc iawn. Tra wrth ei waith cafodd ddamwain ddifrifol pan gafodd ei goes ei ddal gan ran o'r peirianwaith a bu'n rhaid ei drychu. Aeth yn ôl i weithio i swyddfa'r gwaith fel clerc gan ddangos dealltwriaeth graff o sut yr oedd y busnes yn llwyddo; ar adeg ei briodas yr oedd wedi ei ddyrchafu i swydd rheolwr gwaith tunplat Cwmbwrla[3]. Trwy briodi merch perchennog gwaith tunplat llwyddodd i ffurfio ei gwmni ei hun: y Worcester Tinplate Company a ehangodd dros gyfnod trwy brynu siars gweithfeydd eraill gan gynnwys gwaith y Fforest Uchaf lle ddechreuodd ei yrfa.[4]

Yn ogystal â'i fusnes tunplat roedd Williams hefyd yn is-gadeirydd Cwmni Bancio Morgannwg ac yn gyfarwyddwr Cwmni Nwy Abertawe.

Gyrfa wleidyddol golygu

Chwaraeodd Williams ran blaenllaw yng ngwleidyddiaeth Ryddfrydol Abertawe gan wasanaethu fel llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Abertawe, yn aelod o Gyngor Sir Forgannwg ac o Gyngor Bwrdeistref Abertawe a bu'n gwasanaethu fel Maer tref Abertawe o 1884-1885.

Ar ddyrchafiad Syr Henry Hussey Vivian i Dŷ'r Arglwyddi ym 1893 dewiswyd Williams yn ymgeisydd Rhyddfrydol ar gyfer yr isetholiad ar gyfer sedd wag Dosbarth Abertawe. Cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Penderfynodd beidio ag amddiffyn y sedd pan ddaeth yr etholiad cyffredinol nesaf ym 1895.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref, Maesygwernen, Llangyfelach yn 63 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym mynwent cyhoeddus y Mwmbwls

Cyfeiriadau golygu

  1. "FUNERAL OF MR WWILLIAMS - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1904-04-30. Cyrchwyd 2017-11-26.
  2. MR. W. WILLIAMS DEAD LLGC Papurau Cymru ar lein Cambrian 22 Ebrill 1904 [1] adalwyd 19 Tachwedd 2014
  3. Cofrestr Priodas Eglwys St Iago Abertawe (Gwasanaeth Archifau Cymru) Tystysgrif Priodas Rhif 482
  4. LOCAL OBITUARY NOTICES. - W. WILLIAMS, MAESYGWERNEN LLGC Papurau Cymru ar lein Weekly Mail 23 Ebrill 1904 [2] adalwyd 19 Tachwedd 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry Hussey Vivian
Aelod Seneddol dros , Dosbarth Abertawe
18931895
Olynydd:
David Brynmor Jones