Thomas Mansel, Barwn 1af Mansel
Roedd Thomas Mansel, Barwn 1af Mansel o Fargam (neu Mansell) (c 1668 -10 Rhagfyr, 1723) yn Aelod Seneddol dros Gaerdydd a Morgannwg ac yna'n bendefig Cymreig.[1]
Thomas Mansel, Barwn 1af Mansel | |
---|---|
Arfbais Mansel | |
Ganwyd | 1668 |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1723 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1af Prydain Fawr, Aelod o Ail Senedd Prydain Fawr, Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Member of the 1689-90 Parliament, Member of the 1690-95 Parliament, Member of the 1695-98 Parliament, Member of the 1698-1700 Parliament, Aelod o Senedd 1701, Aelod o Senedd 1701-02, Aelod o Senedd 1702-05, Aelod o Senedd 1705-07 |
Plaid Wleidyddol | Tori |
Tad | Edward Mansel |
Mam | Martha Carne |
Priod | Martha Millington |
Partner | Catherine Thomas |
Plant | Robert Mansel, Martha Mansell, Elizabeth Mansell, Mary Mansel, unknown daughter Mansell, unknown daughter Mansell, unknown daughter Mansell, Christopher Mansel, 3rd Baron Mansel, Bussy Mansel, 4th Baron Mansel, Elizabeth Mansel |
Hanes personol
golyguRoedd Mansel yn fab i Syr Edward Mansel, 4ydd Barwnig, o Abaty Margam, Morgannwg, Aelod Seneddol Morgannwg ar dri achlysur rhwng 1660 a 1689, a Martha Carne, ei wraig. Hen daid Mansel oedd Henry Montagu, Iarll 1af Manceinion.
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle a graddiodd BA ym 1686 ac MA ym 1699.
Priododd Martha Millington ym 1686, a bu iddynt chwech o blant, gan gynnwys Christopher Mansel, 3ydd Barwn Mansel a Bussy Mansel, 4ydd Barwn Mansel.
Gyrfa wleidyddol
golyguYm 1689 safodd Mansel fel ymgeisydd yn etholaeth Caerdydd gan gael ei ethol fel Aelod Seneddol Torïaidd. Daliodd y sedd hyd 1698, pan enillodd sedd Sir Forgannwg.
Ym 1704 fe'i penodwyd i swydd Is-Lyngesydd Deheubarth Cymru ac yn yr un flwyddyn fe'i penodwyd yn Rheolwr yr Aelwyd i'r Frenhines Anne, swydd y bu ynddi hyd 1708. Yn rhinwedd ei swydd fel Goruchwyliwr yr Aelwyd, fe'i urddwyd yn aelod o’r Cyfrin Gyngor. O 1710-1711 bu'n Gomisiynydd y Trysorlys, ac o 1712 hyd 1714, bu'n Gyfrifydd y Trysorlys.
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Morgannwg yn 1701. Ar 17 Tachwedd, 1706, ar farwolaeth ei dad Edward, daeth Mansel yn 5ed Barwnig Mansel o Fargam. Ar 1 Ionawr 1712 fe'i dyrchafwyd i'r bendefigaeth fel y Barwn 1af Mansel o Fargam, gan ganiatáu iddo gymryd sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Dolenni allanol
golyguPortread o Thomas Mansel gan Michael Dahl I ar BBC Your Paintings [2] Archifwyd 2015-08-19 yn archive.today
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Francis Gwyn |
Aelod Seneddol Caerdydd 1689 – 1698 |
Olynydd: Edward Stradling |
Rhagflaenydd: Bussy Mansel |
Aelod Seneddol Sir Forgannwg 1699 – 1712 |
Olynydd: Robert Jones (AS Morgannwg) |
Teitlau Anrhydeddus | ||
Rhagflaenydd: Syr John Thomas, Gwenfô |
Uchel Siryf Morgannwg 1701 |
Olynydd: Oliver St.John |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: Barwniaeth newydd |
Barwn Mansel 1712 - 1723 |
Olynydd: Thomas Mansel |