Edward Stradling
Ysgolhaig a pherchennog llyfrgell enwog Sain Dunwyd oedd Syr Edward Stradling (1529 – 1609), mab hynaf Syr Thomas Stradling. Roedd yn un o'r bobl a arwyddodd rôl pardwn Elisabeth I, brenhines Lloegr, 1559. Mewn cywydd iddo, nododd y bardd o Forganng, Meurig Dafydd, (c. 1510–95) ei fod yn rhugl mewn saith iaith. Roedd yn un o brif noddwyr llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod. Fe'i claddwyd yng Nghastell Sain Dunwyd.
Edward Stradling | |
---|---|
Ganwyd | c. 1529 |
Bu farw | 1609 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, hynafiaethydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd Ebrill 1554, Aelod o Senedd 1558 |
Fe'i benodwyd yn aelod seneddol dros Steyning yn 1554, ac Arundel yn 1557-8. Fe'i urddwyd yn farchog yn 1573 a bu'n siryf Morgannwg o 1573-4, 1582-3 ac o 1595-6. Bu'n gyfrifol am lawer o welliannau yn adeiladau a gerddi Sain Dunwyd ac ar ei stadau, ynghyd â môrgloddiau a phorthladd yn Aberddawan.
Noddwr llenyddiaeth Gymraeg
golyguEf oedd noddwr Siôn Dafydd Rhys, a thalodd gost argraffu 1,250 copi o'i ramadeg Cambrobrytannicæ Linguæ Institutiones yn 1592.[1] Roedd hefyd yn gyfaill i Blanche Parry ac Edward Lhuyd.[2]
Cyhoeddwyd detholiad o'r llythyrau a dderbyniodd, o gopi, yn y Stradling Correspondence, 1840. Rhwng 1561 a 1571 ysgrifennodd draethawd ar oresgyniad Normanaidd Morgannwg a gynhwyswyd gan y Dr. David Powel yn yr Historie of Cambria, 1584. Cydnabu Lewys Dwnn ei ddyled iddo hefyd.
Etifedd
golyguPriododd ag Agnes (1547 - 1624), merch Syr Edward Gage ac ni chawsant blant ond mabwysiadodd y ddau berthynas iddynt, John. Roedd John yn fab Francis Stradling S. George, Bryste, mab Harri Stradling, ail fab Thomas Stradling (m. 1480) a Sioned Mathau.
Addysgwyd y John Stradling hwn yn Rhydychen gan dderbyn gradd B.A. yn 1584, cyn teithio ar y Cyfandir. Bu'n siryf Morgannwg yn 1607, 1609 ac yn 1620 ac urddwyd ef yn farchog yn 1608 ac yn farwnig yn 1611. Bu'n aelod seneddol dros S. Germans (Cernyw) 1623-4, Old Sarum 1625, a Sir Forgannwg 1625-6. Sefydlodd ysgol ramadeg yn y Bont-faen breuddwyd nas cyflawnwyd gan Syr Edward Stradling.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein' Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 10 Ebrill 2017.
- ↑ (Saesneg) Kennedy, Ross. "Leyson, Thomas". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/16632.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)