Thomas Purnell

awdur

Roedd Thomas Purnell, (Q) (Mawrth, 183417 Rhagfyr, 1889) yn feirniad theatr ac yn awdur Cymreig.[1]

Thomas Purnell
Ganwyd1834 Edit this on Wikidata
Dinbych-y-pysgod Edit this on Wikidata
Bu farw1889 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Purnell yn Ninbych-y-pysgod yn blentyn i Robert Purnell ac Ann ei wraig. Does dim sicrwydd o union ddyddiad ei eni, ond fe'i bedyddiwyd yn eglwys blwyf Arberth ar 13 Mawrth 1834. Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Hwlffordd a Choleg y Drindod, Dulyn.[2]

Gyrfa golygu

Ar ôl gadael y brifysgol aeth i Lundain gan ddechrau gyrfa mewn newyddiaduraeth. Ym 1862, ar argymhelliad Thomas Duffus Hardy, penodwyd ef yn ysgrifennydd cynorthwyol a llyfrgellydd Sefydliad Archeolegol Prydain Fawr ac Iwerddon, a chadwodd y swydd hyd 1866.

Rhwng 1870 a 1871 cyfrannodd cyfres o feirniadaeth ddifrifol a threiddgar ar ddramâu i gylchgrawn The Athenaeum, o dan y llofnod Q.[3] Ymatebodd y dramodwyr Charles Reade a Tom Taylor yn ffyrnig iddynt.

Llyfryddiaeth golygu

Argraffwyd adolygiadau theatr Purnell o'r Athenaeum mewn llyfr Dramatists of the Present Day (1871). Ysgrifennodd hefyd draethodau llenyddol a rhamant seicolegol The Lady Drusilla (1886) Golygodd Historia quatuor regum Angliae ar gyfer y Roxburghe Club. Bu hefyd yn olygydd Correspondence and Works gan Charles Lamb (1870). Ymysg ei gyhoeddiadau eraill mae:[4]

  • Literature and its professors (1867)
  • London and elsewhere (1886)
  • Dust and diamonds (1888)

Ym 1910 cyhoeddodd Algernon Charles Swinburne casgliad o lythyrau Purnell - Letters to Thomas Purnell and other correspondents

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref, Lloyd Square, Pentonville, Llundain yn 55 mlwydd oed. Roedd yn ddi-briod.

Cyfeiriadau golygu

  1. "PURNELL, THOMAS (1834 - 1889), awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-19.
  2. "Purnell, Thomas [pseud. Q] (1834–1889), theatre critic and writer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/22903. Cyrchwyd 2020-03-19.
  3. "THOMAS PURNELL - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1882-01-13. Cyrchwyd 2020-03-19.
  4. "Purnell, Thomas 1834-1889". WorldCat. Cyrchwyd 19 Chwefror 2020.