Thomas Salusbury (ganed 1612)
Uchelwr o Gymru ac awdur Saesneg oedd Syr Thomas Salusbury (6 Mawrth 1612 - Gorffennaf 1643), a hanodd o deulu'r Salbriaid ar ochr ei dad ac o'r teulu Myddleton ar ochr ei fam.[1][2]
Thomas Salusbury | |
---|---|
Ganwyd | Mawrth 1612, 1612 Lleweni |
Bu farw | 1643 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr |
Tad | Henry Salusbury |
Mam | Hester Myddelton |
Priod | Hester Tyrrell |
Plant | John Salusbury, Hester Salusbury, Thomas Salusbury |
Gyrfa
golyguGaned Syr Thomas Salusbury yn y Waun yn 1612 ond treuliodd ran helaeth ei oes ym mhlas Lleweni, Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, hen gartref y Salbriaid. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1632. Ymladdodd ar ochr y Brenhinwyr yn Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Ar ddiwedd ei oes bu'n Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych. Bu farw yn 1643.[1]
Llenor
golyguCymerai Syr Thomas ddiddordeb brwd mewn llenyddiaeth. Ysgrifennodd nifer o gerddi a chyfieithiadau o ddramâu a berfformiwyd, ynghyd â masgiau ffasiynol, yng Nghastell y Waun; fe'u diogelir mewn llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]
Dim ond un llyfr a gyhoeddodd, sef The History of Joseph, cerdd hir am ymgyrch yr awdur dros deulu ei fam, y teulu Myddleton.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein. Adalwyd 10 Medi 2013