Teulu Salusbury

teulu bonedd Cymreig
(Ailgyfeiriad o Salbriaid)

Tirfeddianwyr cyfoethog yn ardal Dyffryn Clwyd oedd y teulu Salusbury neu'r Salbriaid (neu Salisbury, Salsbri, Salesbury neu Salbri).

Teulu Salusbury
Enghraifft o'r canlynolteulu o uchelwyr, teulu Edit this on Wikidata
Daeth i ben1684 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1289 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysThomas Salusbury, Thomas Salusbury, John Salusbury, Hester Lynch Salusbury Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Syr John Salusbury (m. 1289) a sefydlodd y teulu ac ef a sefydlodd Brodordy Dinbych, priordy Carmelaidd yn nhref Dinbych. Sefydlodd nifer o'i ddisgynyddion deuluoedd dylanwadol, uchelwrol a Chymreig iawn megis Lleweni (Dinbych) a'r Rug (Edeirnion).

Roedd John Salusbury (cyn 1520 - 1578), o Lleweni yn swyddog sirol, un o deulu pwerus y Salbriaid, ac aelod seneddol; ceir beddrod cain, drud iddo yn Eglwys Sant Marchell, Dinbych. Ef oedd mab hynaf Syr Roger Salusbury, hefyd o Blas Lleweni. Dilynodd ei dad yn 1530 a gwnaed ef yn farchog ar 22 Chwefror 1547. Priododd Jane, merch a chydaeres David Myddelton, Caer, Swydd Gaer, a bu iddynt chwe mab a dwy ferch. Bu ei fab hynaf a'i etifedd John, sef gŵr cyntaf Catrin o Ferain, a fu farw yn 1566, 12 mlynedd o'i flaen.[1]

Syr John Salusbury (m. 1566) neu 'Siôn Salsbri o Leweni' (marw yn 1566) oedd gŵr cyntaf Catrin o Ferain. Dienyddiwyd eu mab hynaf Thomas (1564 - 1586) am fod yn rhan yng Nghynllwyn Babington i ddiorseddu Elisabeth I, brenhines Lloegr a choroni Mari, Brenhines yr Alban. Roedd mab arall John (1567 - 1612) yn fardd Saesneg cynhyrchiol ac yn perthyn i gylch o ddeallusion a oedd yn cynnwys Syr Walter Raleigh.

Roedd un o gyfieithwyr y Beibl, sef William Salesbury hefyd yn perthyn i'r teulu yn ogystal a'r gramadegydd Henry Salusbury. Ymhlith aelodau eraill y teulu roedd y llenor a gwleidydd Syr Thomas Salusbury (1612-1643) o'r Waun a'r Cyrnol William Salesbury o Fachymbyd (llysenw: "Yr Hen Hosannau Gleision") a gynhaliodd warchae ar Gastell Dinbych yn 1646.

Daeth llinach wrywaidd teulu Lleweni i ben yn 1684 a daeth llinach wrywaidd cangen y Rug i ben yn 1658 a daeth y stâd yn ddiweddarach yn eiddo i Wynniaid Glynllifon.

Aelodau nodedig o'r teulu

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu