Thomas Stepney
Roedd Syr Thomas Stepney, 5ed Barwnig (tua 1668 – tua 1745) yn dirfeddiannwr a gwleidydd Cymreig a fu'n eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin o 1717 i 1722.
Thomas Stepney | |
---|---|
Ganwyd | c. 1668 |
Bu farw | 1745, 24 Chwefror 1744 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, tirfeddiannwr |
Swydd | Aelod o 5ed Senedd Prydain Fawr |
Tad | John Stepney |
Mam | Justina Vandyke |
Priod | Margaret Vaughan |
Plant | John Stepney |
Thomas oedd unig fab Syr John Stepney, 4ydd Barwnig Prendergast, Sir Benfro a'i wraig Justina Van Dyck, merch Syr Anthony Van Dyck, yr arlunydd. Etifeddodd y farwnigaeth ar farwolaeth ei dad ym 1681. Ym 1691, priododd Margaret Vaughan, merch John Vaughan o Lanelli.[1] Roedd hi'n gyd etifeddes cangen o deulu Vaughan y Gelli Aur, a fu'n ASau Sir Gaerfyrddin yn ystod yr 17g. Gwasanaethodd Thomas fel Uchel Siryf Sir Benfro yn y flwyddyn 1696 i 1697.[2] Ym 1714 penderfynodd adeiladu Tŷ Llanelli, tŷ trefol yn Llanelli.[3]
Dychwelwyd Stepney yn ddiwrthwynebiad fel Aelod Seneddol dros Sir Gaerfyrddin mewn isetholiad ar 23 Mai 1717. Nid safodd eto yn etholiad cyffredinol 1722 nac wedi hynny.
Bu farw Stepney ar ddechrau 1745 a chladdwyd ef yn Llanelli ar 19 Ionawr 1745 yn 76 mlwydd oed. Gadawodd fab, John, a'i holynodd fel barwnig, a dwy ferch.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Complete baronetage, Cokayne, George Edward, 1825-1911Stepney adalwyd 22 Chwefror 2019
- ↑ The History of Parliament: the House of Commons 1715-1754, ed. R. Sedgwick, 1970 Sir Thomas Stepney adalwyd 22 Chwefror 2019
- ↑ BBC Wales Llanelly House: a perfect example of a Georgian town house adalwyd 22 Chwefror 2019
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Powlett |
Aelod Seneddol | Olynydd: Edward Rice |