Sir Gaerfyrddin (etholaeth seneddol)
Roedd Sir Gaerfyrddin yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin Senedd y Deyrnas Unedig o 1542 hyd ei ddiddymu ym 1885. Roedd y sir yn dychwelyd un Aelod Seneddol hyd at 1832 pan ychwanegwyd ail gynrychiolydd.
Enghraifft o'r canlynol | Etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Daeth i ben | 18 Tachwedd 1885 |
Dechrau/Sefydlu | 8 Rhagfyr 1832 |
Rhagflaenydd | Carmarthenshire |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Rhanbarth | Cymru |
Ym 1885 rhannwyd yr etholaeth yn ddwy sedd un aelod sef, Gorllewin Caerfyrddin a Dwyrain Caerfyrddin.
Un o etholiadau mwyaf nodedig yr etholaeth oedd Lecsiwn Fawr 1802 lle fu Syr James Hamlyn Williams yn sefyll ar ran y Torïaid a William Paxton ar ran y Chwigiaid. Gwarrwyd ffortiwn gan y naill ochor a'r llall i geisio sicrhau'r fuddugoliaeth[1]. Amcangyfrifir bod Paxton wedi gwario £15,690 ar golli'r frwydr (gwerth tua £15.5 miliwn, yn ôl cymhariaeth cyflogau, yn 2018).[2] Yn ôl traddodiad y fro adeiladwyd Tŵr Paxton ger Llanarthne fel prawf bod digonedd o arian ar ôl gan Paxton er gwaetha'r maint a afradwyd ar y Lecsiwn Fawr.
Aelodau Seneddol Cynnar
golyguBlwyddyn | Aelod |
---|---|
1542-1545 | Ansicr |
1545 | Richard Devereux |
1548 | Syr John Perrott |
1553 | Henry Jones |
1555 | Richard Jones |
1558 | Syr Thomas Jones |
1559 | Richard Jones |
1563 | Syr Henry Jones |
1572 | John Vaughan |
1576 | Walter Vaughan |
1584 | Walter Rice |
1586 | Syr Thomas Jones |
1588 | Herbert Croft |
1593 | Walter Vaughan |
1597 | Syr Thomas Jones |
1601 | John Vaughan |
1604 | Syr Robert Mansell |
1620 | Syr John Vaughan |
1624 | Richard Vaughan |
Cynrychiolaeth Seneddol yng nghyfnod Rhyfel Cartref Lloegr
golygu1629–1640 Dim Senedd
1640 Henry Vaughan (ar ran y Goron). Ym mis Chwefror cafodd Vaughan ei ddiarddel a bu'r sedd yn wag
1646 John Lloyd. Cafodd ei ddienyddio ym 1648 fel rhan o Garthiad Thomas Pride a bu'r sedd yn wag
1653 Doedd Sir Gaerfyrddin ddim yn cael ei gynrychioli yn senedd Barebones
Bu gan Sir Gaerfyrddin dau aelod yn Senedd Gyntaf y Protectoriaeth
1654 John Claypole a Rowland Dawkins
1656 Rowland Dawkins a Robert Atkyns
Doedd Sir Gaerfyrddin ddim yn cael ei gynrychioli yn Senedd y Rymp
1659 Thomas Hughes
1660 John Lloyd
1661 Yr Arglwydd Vaughan
Aelodau Seneddol hyd Ddeddf Diwygio 1832
golyguBlwyddyn | Aelod | Plaid |
---|---|---|
1668 | Syr Henry Vaughan | |
1677 | Altham Vaughan | |
1679 | Yr Arglwydd Vaughan | |
1685 | Yr Arglwydd Vaughan | |
1689 | Syr Rice Rudd | |
1701 | Griffith Rice | |
1710 | Syr Thomas Powell | |
1715 | Ardalydd Winchester | Whig |
1717 | Syr Thomas Stepney | |
1722 | Edward Rice | |
1724 | Syr Nicholas Williams | |
1745 | John Vaughan | |
1754 | George Rice | |
1779 | John Vaughan | |
1784 | Syr William Mansel | |
1790 | Yr Anrh George Talbot Rice | Tori |
1793 | Syr James Hamlyn | |
1802 | James Hamlyn Williams | |
1806 | Syr William Paxton | |
1807 | Yr Arglwydd Robert Seymour | Tori |
1820 | Yr Anrh. George Rice Rice-Trevor | Tori |
1831 | Syr James Hamlyn-Williams | Whig |
Aelodau Seneddol 1832-1885
golyguEtholiad | Aelod cyntaf | Plaid cyntaf | Ail aelod | Ail blaid | ||
---|---|---|---|---|---|---|
1832 | Yr Anrh. George Rice Rice-Trevor | Ceidwadol | Edward Hamlyn Adams | Whig | ||
1835 | Syr James Hamlyn-Williams | Whig | ||||
1837 | John Jones | ceidwadol | ||||
1842 is-etholiad | David Arthur Saunders Davies | Ceidwadol | ||||
1852 is-etholiad | David Jones (hyd 1868) | Ceidwadol | ||||
1857 is-etholiad | David Pugh | Rhyddfrydol | ||||
1868 | Edward John Sartoris | Rhyddfrydol | John Jones | Ceidwadol | ||
1874 | Frederick Campbell, Is-iarll Emlyn | Ceidwadol | ||||
1880 | Walter Rice Howell Powell | Rhyddfrydol |
Canlyniadau etholiad o 1832
golyguEtholiadau yn y 1830au
golygu(Ymgeiswyr efo * wedi eu hethol)
Etholiad cyffredinol 1832: Etholaeth Sir Gaerfyrddin | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Yr Anrh George Rice Rice Trevor* | 1,853 | 37.1 | ||
Whig | Edward Hamlyn Adams* | 1,638 | 32.8 | ||
Whig | Syr James Hamlyn-Williams | 1,504 | 30.1 |
Etholiad cyffredinol 1835: Etholaeth Sir Gaerfyrddin | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Yr Anrh George Rice Rice Trevor* | 2,204 | 36.8 | ||
Rhyddfrydol | Syr James Hamlyn-Williams* | 1,939 | 32.3 | ||
Ceidwadwyr | John Jones | 1,851 | 30.9 |
Etholiad cyffredinol 1837: Etholaeth Sir Gaerfyrddin | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Yr Anrh George Rice Rice Trevor* | 2,486 | 36.9 | ||
Ceidwadwyr | * John Jones* | 2,173 | 32.3 | ||
Rhyddfrydol | Syr James Hamlyn-Williams | 2,068 | 30.8 |
Etholiadau diwrthwynebiad 1841-1865
golyguCafodd George Rice Rice Davies a John Jones eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1841 ar ran y Ceidwadwyr. Bu farw John Jones ym 1842 ac etholwyd David Arthur Saunders Davies yn ddiwrthwynebiad i'w olynu ar ran y Ceidwadwyr.
Cafodd George Rice Rice Davies a David Arthur Saunders Davies eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1847 ar ran y Ceidwadwyr. Daeth Rice Trevor yn Arglwydd Dinefwr a'i ddyrchafu i Dy'r Arglwyddi ym 1852. Fe'i olynwyd yn ddiwrthwynebiad gan David Jones (Ceidwadwr).
Cafodd David Arthur Saunders Davies a David Jones eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1847 ac eto ym 1852. Bu Davies farw ym 1857 ac etholwyd David Pugh i'w olynu yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol.
Etholwyd David Pugh a David Jones yn ddiwrthwynebiad yn Etholiad cyffredinol 1859 ac eto ym 1865.
Etholiadau 1868-1880
golygu(Ymgeiswyr efo * wedi eu hethol)
Etholiad cyffredinol 1868: Etholaeth Sir Gaerfyrddin | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Edward John Sartoris* | 3,280 | 31.6 | ||
Ceidwadwyr | John Jones* | 2,942 | 28.3 | ||
Ceidwadwyr | H Lavellin-Pukley | 2,828 | 27.2 | ||
Annibynnol | David Pugh | 1,340 | 12.9 |
Etholiad cyffredinol 1874: Etholaeth Sir Gaerfyrddin | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Frederick Campbell Is-iarll Emlyn* | 3,389 | 29.8 | ||
Ceidwadwyr | John Jones* | 3,261 | 27.7 | ||
Rhyddfrydol | Walter Rice Howell Powell | 2,799 | 23.8 | ||
Rhyddfrydol | Edward John Sartoris | 2,331 | 19.7 |
Etholiad cyffredinol 1880: Etholaeth Sir Gaerfyrddin | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Walter Rice Howell Powell* | 4,101 | 41.7 | ||
Ceidwadwyr | Frederick Campbell, Is-iarll Emlyn* | 3,030 | 30.8 | ||
Ceidwadwyr | John Jones | 2,712 | 27.5 |
Diddymwyd y sedd ar gyfer etholiad 1885 a'i olynu gan etholaethau Gorllewin Caerfyrddin a Dwyrain Caerfyrddin.
Gweler hefyd
golygu- Bwrdeistref Caerfyrddin (etholaeth seneddol)
- Dwyrain Caerfyrddin (etholaeth seneddol)
- Gorllewin Caerfyrddin (etholaeth seneddol)
- Caerfyrddin (etholaeth seneddol)
- Llanelli (etholaeth seneddol)
- Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr (etholaeth seneddol)
- Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro (etholaeth seneddol)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ BBC - De Orllewin - Y Lecsiwn Fawr; adalwyd 7 Chwefror 2014
- ↑ Purchasing Power of British Pounds from 1245 to Present; adalwyd 7 Chwefror 2014
- ↑ "Etholiad Sir Gaerfyrddin", Seren Cymru, 4 Rhagfyr 1868; adalwyd 14 Chwefror 2014