Tomos yr Apostol

un o'r apostolion
(Ailgyfeiriad o Thomas yr Apostol)

Un o Ddeuddeg Apostolion Iesu o Nasareth a ystyrir yn sant gan yr Eglwys Gristnogol oedd Tomos, neu Thomas, y cyfeirir ato gan amlaf fel Sant Thomas neu'r Apostol Tomos. Ar ambell achlysur yn Efengyl Ioan rhoddir yr enw Didymus ("yr efaill") iddo.

Tomos yr Apostol
Ganwyd1 g Edit this on Wikidata
Galilea Edit this on Wikidata
Bu farw3 Gorffennaf 0072 Edit this on Wikidata
Mylapore Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethcenhadwr Edit this on Wikidata
SwyddApostol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl3 Gorffennaf, yr Eglwys Gatholig Rufeinig, 6 Hydref, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Thomas.

Tomos/Thomas yn y Testament Newydd golygu

Crybwyillir Tomos yn efengylau Mathew, Marc a Luc, ond mae'n siarad nifer o weithiau yn Efengyl Ioan:

  • Ioan 11:16: A Lasarus wedi marw’n ddiweddar, nid yw’r apostolion yn dymuno mynd yn ôl i Jwdea. Dywed Thomas, "Gadewch i ninnau fynd hefyd, i farw gydag ef."
  • Ioan 14:5: A Iesu wedi egluro ei fod yn mynd i ffwrdd i baratoi cartref nefol i’w ddilynwyr, y rhai a fyddai un diwrnod yn ymuno ag ef yno. Dywed Thomas, "Arglwydd, ni wyddom i ble'r wyt yn mynd. Sut y gallwn wybod y ffordd?"
  • Ioan 20:24-29: Mae Thomas yn amheus pan glyw fod Iesu wedi atgyfodi oddi wrth y meirw ac wedi ymddangos i’r apostolion eraill. Dywed, "Os na welaf ôl yr hoelion ar ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a'm llaw yn ei ystlys, ni chredaf fi byth."
  • Ioan 20:28: Pan fydd Iesu’n ymddangos wedyn ac yn gwahodd Thomas i gyffwrdd â’i glwyfau, mae Thomas yn dangos ei gred trwy ddweud, "Fy Arglwydd a'm Duw." Mae Iesu'n ateb, "Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu? Gwyn eu byd y rhai a gredodd heb iddynt weld."

Sant Thomas yn India golygu

Yn ôl adroddiadau traddodiadol Cristnogion Sant Thomas o India, glaniodd Thomas ar arfordir Kerala yn 52 OC a chafodd ei ferthyru ym Mylapore, ger Chennai yn 72 OC. Credir yn ôl y traddodiad hwnnw iddo sefydlu saith eglwys yn Kerala.

Coffadwriaeth golygu

Dathlir Gŵyl Sant Thomas yn Eglwysi'r Gorllewin ar 3 Gorffennaf.