Cyfarwyddwr cerdd Only Men Aloud yw Timothy Rhys-Evans (ganwyd Mehefin 1972). Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd a chyfarwyddwr cerdd y côr Only Men Aloud![1] ac Only Boys Aloud. Ffurfiodd y côr plant Only Kids Aloud yn 2012.[2]

Tim Rhys-Evans
Ganwyd1972 Edit this on Wikidata
Tredegar Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Fe'i magwyd yn Nhredegar Newydd a cychwynodd chwarae'r piano yn 5 oed, gan dangos ei ddoniau yn y capel. Aeth i Ysgol Gyfun Bedwellte yn Aberbargoed a chwaraeodd mewn band pres. Yn 14 oed, ffurfiodd ei gôr cyntaf gyda aelodau o sawl eglwys leol a roedd yn aelod o Gôr Iau Morgannwg Ganol. Roedd am fod yn gyfansoddwr ac aeth i astudio Cyfansoddi ym Mhrifysgol Caerdydd ond nid oedd at ei ddant. Aeth ymlaen i gael gwersi canu ac astudiodd gwrs Meistr ar ganu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[3]

Gyrfa golygu

Bu'n canu bariton yng nghorws cwmniau fel Opera de Lyon yn Ffrainc a Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru cyn cael swydd fel hyfforddwr canu gyda Chôr Iau Cenedlaethol Prydain Fawr.[3]

Bu'n gyfarwyddwr cerdd gyda Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru am 10 mlynedd[4] Bu hefyd yn diwtor llais yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[5] Mae wedi arwain sawl côr, yn cynnwys Corws Meibion y Mynydd Du a Cor Meibion Dynfant.[6] Sefydlodd Only Men Aloud! yn 2000[7] (adwaenir hefyd fel Cantorion) ac arweiniodd nhw i fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth Last Choir Standing ar y BBC yn 2008.

Anrhydeddau golygu

Yn Awst 2010, derbyniwyd Rhys-Evans i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Blaenau Gwent, 2010.[8] Mae'n gefnogwr o'r elusen Music in Hospitals Cymru/Wales. Fe'i wnaed yn MBE yn Anhrydeddau Pen-blwydd 2013 am ei wasanaeth i gerddoriaeth ac elusennau.[9]

Bywyd personol golygu

Mae Tim mewn partneriaeth sifil gyda'r tenor Cymreig Alun Rhys Jenkins. Mae wedi trafod yn gyhoeddus ei brofiad gyda iselder a'i gyfnod mewn ysbyty seiciatrig yn 2013.[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. Wales Online - New Welsh face of 2008
  2. BBC News - Only Kids Aloud follow in footsteps of Only Men Aloud; Adalwyd 24 Chwefror 2013
  3. 3.0 3.1 Tim Rhys-Evans: ‘I wasn’t blessed with a wonderful voice’ (en) , WalesOnline, 30 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.
  4. Only Boys Aloud team up with Welsh National Youth Opera (en) , WalesOnline, 8 Medi 2012. Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.
  5. "RWCMD - Only Men Aloud". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-21. Cyrchwyd 2018-02-20.
  6. Cor Dynfant
  7. BBC Last Choir Standing Archifwyd 7 March 2009[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  8. "Anrhydeddau 2010 – Gorsedd Cymru". 2016-07-21. Cyrchwyd 2023-08-07.
  9. London Gazette: (Supplement) no. 60534. p. 17. 15 June 2013.
  10. Tim Rhys-Evans interview: 'Mental illness should never be suffered in silence - there is always hope' (en) , independent.co.uk, 31 Mai 2016. Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.