Tim Walz
Gwleidydd o'r Unol Daleithiau yw Timothy James Walz (ganwyd 6 Ebrill 1964) sydd wedi bod yn Llywodraethwr o Minnesota ers 2019. Cyn hynny roedd yn aelod o Dŷ Cynrychiolwyr yr UD ar gyfer ardal gyngresol 1af Minnesota rhwng 2007 a 2019. Ef yw enwebai Plaid Democrataidd dros Is-Arlywydd yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau 2024 ar ôl cael ei ddewis gan yr enwebai arlywyddol Kamala Harris.[1] Cyn ymuno â gwleidyddiaeth, gwasanaethodd Walz yng Ngwarchodlu Cenedlaethol y Fyddin am 24 mlynedd ac yna daeth yn athro ysgol uwchradd. Fel athro, bu'n hyfforddi pêl-droed ac yn noddi cynghrair hoyw–syth yr ysgol.
Tim Walz | |
---|---|
Llais | Tim Walz on the cost of healthcare in the United States.ogg |
Ganwyd | Timothy James Walz 6 Ebrill 1964 West Point |
Man preswyl | Mankato, Minnesota, Minnesota Governor's Residence, Valentine, Butte, Alliance |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Baglor mewn Gwyddoniaeth, Meistr yn y Gwyddorau |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog heb gomisiwn, addysgwr, American football coach |
Swydd | Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Governor of Minnesota |
Cyflogwr | |
Taldra | 1.83 metr |
Plaid Wleidyddol | Minnesota Democratic–Farmer–Labor Party, plaid Ddemocrataidd |
Priod | Gwen Walz |
Plant | Hope Walz, Gus Walz |
Gwobr/au | Army Commendation Medal, Army Achievement Medal, Reserve Good Conduct Medal, Global War on Terrorism Service Medal, Col. Arthur T. Marix Congressional Leadership Award |
Gwefan | https://kamalaharris.com/meet-governor-tim-walz/ |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Bywyd personol
golyguFe'i ganwyd yn 1964 yn West Point, Nebraska. Priododd ei wraig Gwen Whipple (ganwyd 1966) ar 4 Mehefin 1994. Cafodd y cwpl driniaethau ffrwythlondeb am saith mlynedd cyn cael eu dau blentyn: Hope (ganwyd 2001) a Gus (ganwyd 2006).[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ferguson, Dana (6 Awst 2024). "Harris taps Minnesota Gov. Tim Walz as her running mate". NPR (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Awst 2024.
- ↑ Campuzano, Eder (6 Awst 2024). "Who is Tim Walz? Minnesota's governor and Kamala Harris' running mate, explained". The Minnesota Star Tribune (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Awst 2024.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Tudalen swyddogol