Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2024

Bydd etholiad yn cael ei chynnal ar Ddydd Mawrth 5 Tachwedd 2024 i ethol Arlywydd ac Is-Arlywydd Unol Daleithiau America. Bydd pleidleiswyr ym mhob talaith ac Ardal Columbia yn dewis etholwyr i'r Coleg Etholiadol, a fydd wedyn yn ethol Arlywydd ac Is-Arlywydd am bedair blynedd.

Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2024

← 2020 5 Tachwedd 2024 (2024-11-05) 2028 →

538 aelod y Coleg Etholiadol
270 pleidlais i ennill
 
Enwebedig Kamala Harris Donald Trump
Plaid Democratwr Gweriniaethwr
Talaith cartref California Florida
Cydredwr Tim Walz JD Vance

CaliforniaOregonWashington (state)IdahoNevadaUtahArizonaMontanaWyomingColoradoNew MexicoNorth DakotaSouth DakotaNebraskaKansasOklahomaTexasMinnesotaIowaMissouriArkansasLouisianaWisconsinIllinoisMichiganIndianaOhioKentuckyTennesseeMississippiAlabamaGeorgiaFloridaSouth CarolinaNorth CarolinaVirginiaWest VirginiaDosbarth ColumbiaMarylandDelawarePennsylvaniaNew JerseyNew YorkConnecticutRhode IslandVermontNew HampshireMaineMassachusettsHawaiiAlaskaDosbarth ColumbiaMarylandDelawareNew JerseyConnecticutRhode IslandMassachusettsVermontNew Hampshire

Arlywydd cyn yr etholiad

Joe Biden
Democratwr

Etholwyd Arlywydd

i'w benderfynu

Ymgeiswyr

golygu

Y Blaid Ddemocrataidd

golygu

Yn Ebrill 2023, cyhoeddodd yr Arlywydd presennol Joe Biden y byddai'n ceisio cael ei ailethol, gyda'r Is-Arlywydd Kamala Harris yn parhau i fod yn gydymaith iddo. Roedd pryderon ynghylch oedran Biden, gan mai ef yw’r person hynaf i gymryd swydd yr Arlywydd, yn 78 oed. Tra enillodd Biden yr enwebiad yn hawdd, roedd yn wynebu rhywfaint o wrthwynebiad gan rai a oedd yn anhapus gyda’i gefnogaeth i Israel yn Rhyfel Gaza.[1][2][3][4]

Ar 21 Gorffennaf 2024, gadawodd Biden y ras, yn dilyn perfformiad gwael ganddo mewn dadl deledu'n erbyn Donald Trump ar 27 Mehefin. Cymeradwyodd ef Kamala Harris i fod yn olynydd iddo. Daeth Harris yn enwebai swyddogol y Democratiaid ar 5 Awst yn dilyn pleidlais gan aelodau'r blaid. Ar 6 Awst, dewisodd hi Tim Walz, Llywodraethwr o Minnesota, fel ei chyd-ymgeisydd ar gyfer yr is-arlywyddiaeth.[5]

 
Ymgeiswyr y Blaid Ddemocrataidd yn 2024
Kamala Harris Tim Walz
darpar Arlywydd darpar Is-Arlywydd
   
49ain
Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau
(2021–presennol)
41ain
Llywodraethwr Minnesota
(2019–presennol)
 

Y Blaid Weriniaethol

golygu

Cafodd Donald Trump, yr Arlywydd ar y pryd, ei drechu gan Joe Biden yn etholiad 2020. Ef yw'r pumed cyn-lywydd i geisio ail dymor nad yw'n dilyn ei dymor cyntaf. Os bydd yn ennill, ef fyddai'r ail arlywydd i ennill tymor nad yw'n olynol, ar ôl Grover Cleveland ym 1892. Cyhoeddodd Trump y byddai'n sefyll ar 15 Tachwedd 2022. Dywedodd na fyddai’r cyn Is-Arlywydd Mike Pence yn gyd-ymgeisydd iddo.[6] Mewn achosion sifil, mae Trump wedi’i ganfod yn euog o gam-drin rhywiol a difenwi yn 2023, difenwi yn 2024, a thwyll ariannol yn 2024, gan ddod y cyn-arlywydd cyntaf i’w gael yn euog o drosedd.[7]

Ar 30 Mai 2023, cafwyd Trump yn euog o 34 cyhuddiad o ymyrryd gyda chofnodion busnes mewn ymgais i guddio taliadau i’r actores ffilm Stormy Daniels.[8] Cyhuddwyd Trump eto ym Mehefin am y modd yr ymdriniodd â dogfennau cyfrinachol a oedd yn cynnwys deunyddiau a oedd yn sensitif i ddiogelwch cenedlaethol. Dtatganodd ei fod yn ddieuog o bob cyhuddiad.[9] Ar 13 Gorffennaf 2024, saethwyd Trump yn ei glust mewn ymgais i'w lofruddio wrth iddo siarad mewn rali awyr agored ger Butler, Pennsylvania. Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, ar ddiwrnod cyntaf Confensiwn Cenedlaethol y Gweriniaethwyr, cyhoeddodd Trump ei fod wedi dewis JD Vance, y Seneddwr dros Ohio, fel ei gyd-ymgeisydd. Ar 18 Gorffennaf, derbyniodd Trump yr enwebiad gan y Confensiwn Cenedlaethol Gweriniaethol i sefyll yn yr arlywyddiaeth ar ran y Blaid Weriniaethol. Hwn oedd ei drydydd etholiad yn olynol.[10]

 
Ymgeiswyr y Blaid Weriniaethol yn 2024
Donald Trump JD Vance
darpar Arlywydd darpar Is-Arlywydd
   
45ain
Arlywydd yr Unol Daleithiau
(2017–2021)
Seneddwr yr Unol Daleithiau
dros Ohio

(2023–presennol)
 

Ymgeiswyr pleidiau eraill ac ymgeiswyr annibynnol

golygu

Plaid Rhyddfrydwr

golygu

Dewiswyd Chase Oliver a Mike ter Maat gan y Blaid Ryddfrydol fel eu henwebeion arlywyddol ac is-arlywyddol ar 26 Mai 2024.

 
Ymgeiswyr Plaid Rhyddfrydwr yn 2024
Chase Oliver Mike ter Maat
darpar Arlywydd darpar Is-Arlywydd
   
Gweithredwr cyfrif gwerthu
o Georgia
Economegydd
o Virginia
 

Y Blaid Werdd

golygu

Dewisiwyd Jill Stein yn ymgeisydd y Blaid Werdd yn 2012 ac yn 2016. Ar 16 Awst 2024, dewiswyd Stein a'r academydd Butch Ware fel ei chyd-ymgeisydd.

 
Ymgeiswyr y Blaid Werdd yn 2024
Jill Stein Butch Ware
darpar Arlywydd darpar Is-Arlywydd
 
Meddyg
o Massachusetts
Academaidd
o California
 

Cornel West (annibynnol)

golygu

Mae Cornel West yn actifydd sosialaidd ac yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Ei gyd-ymgeisydd yw Melina Abdullah, arweinydd academaidd a dinesig o California.

Ymgeiswyr Annibynnol 2024
Cornel West Melina Abdullah
darpar Arlywydd darpar Is-Arlywydd
   
Academaidd ac actifydd
o California
Arweinydd academaidd a dinesig
o California
 

Ymgeiswyr a dynwyd yn ôl

golygu
  • Robert F. Kennedy Jr., cyfreithiwr amgylcheddol ac ymgyrchydd yn erbyn brechu. Safodd fel ymgeisydd annibynnol a dewisodd Nicole Shanahan fel ei gyd-ymgeisydd. Daeth a'i ymgyrch i ben er mwyn cymeradwyo Donald Trump.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rafford, Claire (Ionawr 19, 2022). "Biden commits to Harris as his running mate for 2024". Politico. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ionawr 27, 2022. Cyrchwyd January 19, 2022.
  2. Evans, Gareth (25 Ebrill 2023). "President Joe Biden launches 2024 re-election campaign". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Ebrill 25, 2023. Cyrchwyd Tachwedd 10, 2023.
  3. Watson, Kathryn (Awst 15, 2022). "Rep. Carolyn Maloney says 'off the record', Biden is 'not running again'". CBS News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Awst 28, 2022. Cyrchwyd Medi 3, 2022.
  4. Vakil, Caroline (June 23, 2022). "SC Democratic governor candidate says Biden shouldn't run in 2024 due to age". The Hill. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Medi 3, 2022. Cyrchwyd Medi 3, 2022.
  5. "Harris could become the first female president after years of breaking racial and gender barriers". Associated Press (yn Saesneg). 21 Gorffennaf 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2024. Cyrchwyd 6 Awst 2024.
  6. Hagen, Lisa (March 16, 2022). "Trump Appears to Rule Out Pence as Running Mate in Potential 2024 Run". US News & World Report. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mehefin 2023. Cyrchwyd June 16, 2023.
  7. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw ABC News-2024-2
  8. Mangan, Dan (4 Ebrill 2023). "NY grand jury indicts Trump in hush money payment case". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mawrth 2023. Cyrchwyd March 30, 2023.
  9. Sangal, Aditi; Hayes, Mike; Powell, Tori B.; Chowdhury, Maureen; Hammond, Elise; Vogt, Adrienne (13 Mehefin 2023). "June 13, 2023 Trump pleads not guilty in historic federal indictment". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehfin, 2023. Cyrchwyd 14 Mehefin 2023. Check date values in: |archive-date= (help)
  10. "Takeaways from the final night of the Republican National Convention". CNN. 19 Gorffennaf 2024. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 22, 2024. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2024.