Tir-na-nOg (cerdd)

Awdl delyngegol a ysgrifennwyd yn 1916 gan T. Gwynn Jones yw Tir-na-nOg ac a gyhoeddwyd yn ei gyfrol Caniadau.[1][2] Edrydd y gerdd hanes y chwedl Wyddelig eponymaidd a'r lle o'r un enw (Tír na n-Óg). Crynhoir cynnwys y gerdd yn ei rhagymadrodd:

Seiliwyd y gerdd hon ar hen chwedl Wyddelig, a geir mewn amryw ffurfiau, yn adrodd fel yr aeth y bardd Osian i Dir-na-nOg gyda Nia Ben Aur, merch brenin yr ynys, ac y bu fyw yno gyda hi dri chan mlynedd. Un dydd, medd y chwedl, daeth drosto awydd gweled ei hen wlad. Dywedodd Nia wrtho, o dodai ei droed ar dir Iwerddon, yr âi'n hen ac y byddai farw. Aeth Osian dros y môr hyd Iwerddon. Nid byw mo'i hen gymdeithion mwy, a bychain oedd y bobl, o'u cymharu â'r gwŷr gynt. Un dydd, wrth grwydro ar ei farch, gwelodd Osian ddengwr a deugain yn ceisio dodi maen ym mur rhyw gaer, ond nid oedd rym ynddynt i'w wneuthur. Dywedodd yntau y dodai y maen yn ei le iddynt, ond cael a fynnai o fwyd. Rhoed iddo a geisiai. Wrth iddo godi'r maen, torrodd cengl y cyfrwy, syrthiodd yntau ar lawr, aeth yn gleiriach dall yn y fan, bu farw, claddwyd ef yno, cyfodwyd carnedd ar ei fedd a thorri ei enw mewn ogam erwydd. [3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jones, T. Gwynn. 1934. Caniadau. Hughes A'I Fab: Wrecsam, tt. 60-74
  2. Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 3 Mai 2014
  3. Jones, T. Gwynn. 1934. Caniadau. Hughes A'I Fab: Wrecsam, tt. 60