Tir Arnhem
rhanbarth o Diriogaeth y Gogledd
Rhanbarth o Diriogaeth y Gogledd, Awstralia, yw Tir Arnhem.[1]
Math | rhanbarth o Diriogaeth y Gogledd, cyrchfan i dwristiaid |
---|---|
Enwyd ar ôl | Arnhem |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Top End |
Gwlad | Awstralia |
Cyfesurynnau | 12.73°S 134.59°E |
Ymwelodd Ewropeaid â'r rhanbarth hwn yn gyntaf ym 1623 pan hwyliodd Willem Joosten van Colster, capten gyda Chwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain, ei long Arnhem drwy Wlff Carpentaria. Enwir yr ardal ar ôl y llong, a enwyd yn ei thro ar ôl dinas Arnhem, yn yr Iseldiroedd.
Prif dref y rhanbarth yw Nhulunbuy, sydd 600 cilomedr i'r dwyrain o Darwin. Mae'r rhanbarth yn gorchuddio 97,000 cilomedr sgwâr o dir. Mae gan Tir Arnhem boblogaeth o tua 16,000, ac mae 12,000 ohonynt yn Gynfrodorionau Awstralaidd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)