Gwlff Carpentaria
Môr mawr, bas wedi'i amgáu ar dair ochr gan ogledd Awstralia ac wedi'i ffinio i'r gogledd gan Fôr Arafura yw Gwlff Carpentaria. Mae ganddo arwynebedd o 120,000 milltir sgwâr (310,000 km²) a dyfnder mwyaf o 230 troedfedd (70 m).
Math | gwlff |
---|---|
Enwyd ar ôl | Carpentaria |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Môr Arafura |
Gwlad | Awstralia |
Arwynebedd | 300,000 km² |
Cyfesurynnau | 13.75°S 139°E |
Amgaeir y gwlff ar y gorllewin gan Tir Arnhem ac i'r dwyrain gan Benrhyn Esfrog. Llawr y môr yw'r silff gyfandirol sy'n cysylltu Awstralia â Gini Newydd. Mae'r tiroedd sy'n ffinio â'r gwlff yn wastad ac yn isel; maent yn disgyn tuag at y môr mewn cwymp graddol iawn o ddim ond un troedfedd y filltir. Mae mwy nag 20 afon yn draenio i Gwlff Carpentaria; maent yn ymdroelli'n helaeth yn eu cyrsiau ac mae ganddynt deltâu mawr.
Archwilwyr Ewropeaidd cyntaf y gwlff oedd Iseldirwyr a ddarganfuodd yr arfordir dwyreiniol rhwng 1605 a 1628. Darganfu'r fforiwr Abel Tasman yr arfordiroedd deheuol a gorllewinol ym 1644. Enwir y gwlff ar ôl Pieter de Carpentier, a oedd yn Llywodraethwr Cyffredinol yr Cwmni India'r Dwyrain yr Iseldiroedd (1623–7).