Dywedir bod aelwyd mewn tlodi tanwydd pan na all ei haelodau fforddio cadw’n ddigon cynnes am gost resymol, o ystyried eu hincwm.

Tlodi tanwydd
Enghraifft o'r canlynolcysyniad economaidd Edit this on Wikidata

Y diffiniad yng Nghymru yw: “gorfod gwario mwy na 10 y cant o incwm ar danwydd i’r cartref cyfan er mwyn cynnal system wresogi foddhaol”. Defnyddir y term yn bennaf yn y DU, Iwerddon a Seland Newydd, er bod trafodaethau ar dlodi tanwydd ar gynnydd ledled Ewrop, ac mae'r cysyniad hefyd yn berthnasol i'r byd cyfan, lle gall tlodi ac oerfel fod yn bresennol.

Mae tlodi tanwydd yn wahanol i dlodi ynni.

Tlodi Tanwydd yng Nghymru golygu

Yn 2020 amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru bod 155,000 o aelwydydd, sef 12% o holl aelwydydd Cymru, yn dal i fod mewn tlodi tanwydd. Yn ôl diffiniad swyddogol Pwyllgor Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru, dyma yw tlodi tanwydd:

“gorfod gwario mwy na 10 y cant o incwm ar danwydd i’r cartref cyfan er mwyn cynnal system wresogi foddhaol”. Ond y tu ôl i’r diffiniad hwnnw mae realiti llwm - mae’n golygu byw mewn cartref oer a llaith. Dewis bwydo’ch teulu neu gadw’r teulu’n gynnes. Gall olygu iechyd corfforol a meddyliol gwaeth."

[1]

Cyfeiriadau golygu