Tlodi ynni

diffyg ynni

Diffyg mynediad at wasanaethau ynni modern yw tlodi ynni. Mae'n cyfeirio at sefyllfa nifer fawr o bobl mewn gwledydd sy'n datblygu a rhai pobl mewn gwledydd datblygedig sy'n defnyddio ychydig iawn o ynni, yn defnyddio tanwydd budr neu'n treulio gormod o amser yn casglu tanwydd i ddiwallu anghenion sylfaenol. Yn 2023 roedd gan 759 miliwn o bobl ddiffyg mynediad at drydan cyson ac roedd 2.6 biliwn o bobl yn defnyddio systemau coginio peryglus ac aneffeithlon.[1] Mae tlodi ynni yn wahanol i dlodi tanwydd, sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ba mor fforddiadwy yw'r tanwydd.

Tlodi ynni
Merched yn casglu coed tân ar gyfer tanwydd.
Mathtlodi Edit this on Wikidata

Daeth y term “tlodi ynni” i’r amlwg trwy gyhoeddi llyfr Brenda Boardman, Tlodi Tanwydd: O Gartrefi Oer i Gynhesrwydd Fforddiadwy (1991). Roedd enwi croestoriad ynni a thlodi fel “tlodi ynni” wedi ysgogi’r angen i ddatblygu polisi cyhoeddus i fynd i’r afael â thlodi ynni a hefyd astudio ei achosion, ei symptomau a’i effeithiau mewn cymdeithas. Pan gyflwynwyd tlodi ynni am y tro cyntaf yn llyfr Boardman, fe'i disgrifiwyd fel diffyg pŵer i gynhesu ac oeri cartrefi. Heddiw, deellir bod tlodi ynni yn ganlyniad i anghydraddoldebau systemig cymhleth sy'n creu rhwystrau at ynni modern am bris fforddiadwy. Mae tlodi ynni yn anodd i'w fesur a'i ddadansoddi oherwydd ei fod yn brofiad preifat o fewn cartrefi ac yn newid yn ddeinamig drwy'r amser.[2]

Yn ôl menter Gweithredu Tlodi Ynni Fforwm Economaidd y Byd, "Mae mynediad at ynni'n hanfodol i wella ansawdd bywyd ac mae'n hanfodol bwysig ar gyfer datblygiad economaidd. Yn y byd sy'n datblygu, mae tlodi ynni'n dal yn rhemp.[3]" O ganlyniad lansiodd y Cenhedloedd Unedig y Fenter Ynni Cynaliadwy i Bawb a dynodi 2012 yn Flwyddyn Ryngwladol Ynni Cynaliadwy i Bawb, a oedd â ffocws mawr ar leihau tlodi ynni. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod pwysigrwydd tlodi ynni trwy Nod 7 o'i Nodau Datblygu Cynaliadwy i "sicrhau mynediad at ynni fforddiadwy, dibynadwy, cynaliadwy a modern i bawb."[1]

Tlodi Tanwydd yng Nghymru golygu

Yn 2020 amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru bod 155,000 o aelwydydd, sef 12% o holl aelwydydd Cymru, yn dal i fod mewn tlodi tanwydd. Yn ôl diffiniad swyddogol Pwyllgor Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru, dyma yw tlodi tanwydd:

“gorfod gwario mwy na 10 y cant o incwm ar danwydd i’r cartref cyfan er mwyn cynnal system wresogi foddhaol”. Ond y tu ôl i’r diffiniad hwnnw mae realiti llwm - mae’n golygu byw mewn cartref oer a llaith. Dewis bwydo’ch teulu neu gadw’r teulu’n gynnes. Gall olygu iechyd corfforol a meddyliol gwaeth." [4]

Newid Hinsawdd golygu

Yn 2018, roedd 70% o allyriadau nwyon tŷ gwydr o ganlyniad i gynhyrchu a defnyddio ynni. Yn hanesyddol, mae 5% o wledydd yn cyfrif am 67.74% o gyfanswm yr allyriadau a 50% o'r gwledydd sy'n cynhyrchu lleiaf yn cynhyrchu dim ond 0.74% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr.[5] Felly, mae dosbarthu, cynhyrchu a defnyddio gwasanaethau ynni yn anghyfartal iawn ac yn adlewyrchu'r rhwystrau systemig mwy sy'n atal pobl rhag cyrchu a defnyddio gwasanaethau ynni. Yn ogystal, mae mwy o bwyslais ar wledydd sy'n datblygu i fuddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy yn hytrach na dilyn patrymau datblygu ynni y gwledydd datblygedig.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Goal 7 | Department of Economic and Social Affairs". sdgs.un.org. Cyrchwyd 2022-04-15.
  2. Simcock, Neil; Thomson, Harriet; Petrova, Saska; Bouzarovski, Stefan, gol. (2017-09-11). Energy Poverty and Vulnerability: A Global Perspective. London: Routledge. doi:10.4324/9781315231518. ISBN 978-1-315-23151-8.
  3. "Access2017". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-01. Cyrchwyd 2018-04-24.
  4. Tlodi Tanwydd yng Nghymru (Ebrill 2020) Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ; adalwyd 24 Rhagfyr 2022.
  5. Pereira, Marcio Giannini; da Silva, Neilton Fidelis; Freitas, Marcos A.V. (2018-07-10). Davidson, Debra J.; Gross, Matthias (gol.). Energy Poverty and Climate Change (yn Saesneg). 1. Oxford University Press. doi:10.1093/oxfordhb/9780190633851.013.19. ISBN 978-0-19-063385-1.

Dolenni allanol golygu